Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y H)2IBWI˧W[DID< ' Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest." JUìîí. 3&S\ CnWfiFBOB, 1939, ITPriis lc* ARDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD: «* Yb wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynnyg y cyfiyw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlýsuron o Annghymedroldeb." AT GYMEDROLION CREFYDDOL. Nid eich meddwdod chwi, gyfeillion, a alwodd am sefydliad y gymdeithas ddirwestol; eithr meddwdod y wlad : ond eich dyledswydd chwi yw hlaenori yn yr ymdrech i'w ddarostwng, fel rhai yn teimlo dros druenus gyflwr y wlad, gogoniant a chynnydd crefydd, a lles eneidiau dynion. Yn lle cymharu eich cymeriadau eich hunain â'r eiddo y meddwon, dylech yn hytrach sefyll, sylwi, ac ymofyn, " Pa beth, tybed, a allwn ni ei wneuthur, ag a fyddai yn debygol, o dan fendith Duw, o ateb y dyben i sobri, ac i ddwyn i ymarfer â moddion gras, y lluoedd acw àc sydd yn carlamu trwy feddwdod i dru- eni tragwyddol?" Gwyddom ni, y dirwestwyr, gystal a chwithau, y medr rhai o honoch ddy- fod allan o'r dafarn, cygystal ag y medrwch fyned i mewn iddi, heb feddwi: ond fe wydd- och chwithau, gymedrolion, gystal â ninau, nad ydyw eich dull chwi o ymarfer â phethau meddwol, wedi ateb y dyben o sobri y wlad; a sobri y wlad, gydag ymholiad am y llwybr tebycaf o ddwyn hyny i ben, yw prif amcan y gymdeithas ddirwestoL Chwi a ddywedwch nad oes un gorchymyn pendant yn y Bibl, i wneyd y fath beth a llwyr- ymwrthod â gwlybyroedd meddwol. Profa fyn un o ddau beth, sef naill ai eich bod yn deall y Bibl, ac ar yr un pryd yn pechu yn groes i'r hyn a wyddoch; neu ynte nad ydych }rn deall yr Ysgrythyrau. Gwyddis fod gwa- baniaeth mawr rhwng gorchymyn pendant a gorchymyn moesol: yr un moesol a afaela yn mhob creadur rhesymol, yn y byd hwn ac yn y byd a ddaw. Nid uwch oedd llefy gorchymyn moesol yn Eden a Sinai, nâg yw gyda ninau. Rhoddodd yr Arglwydd y gorchymýnion moesol i ddynion yn gyffredinol, fel Llywydd cyfiawn pawb a phob peth oll; ond rhoddodd y gorch- ymynion pendant i ryw bersonau neilltuol, fel un yn meddu awdurdod oruchel a hollol i wneuthur fel y myno â phob dyn. Ni roddes Duw un gorchymyn pendaut, nad pechod yn y sawl a'i cafodd a fuasai anufuddâu: ond efe a roes rai gorchymynion pendant, ag y byddai yn bechod dirfawr ynom ni eu cyflawni. Er engraifft: gorchymyn pendant oedd peri i Abraham ofírymu ei fab—pechod yn Abraham fuasai bwriadu peidio gwneyd hyny; oblegyd Duw, yr hwn a bioedd Abraham a'ifab, a orchymynodd hyny iddo: etto pechod ynom ni fyddai lladd ein meibion. Addysgu eg- wyddorion mae y Bibl; a dysgir i ni yn hanes Abraham yn myned i aberthu ei fab, mai ein dyledswydd yw ymadael â'r gwrthddrychau anwylaf genym, os bydd hyny yn anghen- rheidiol at ufuddâu i Dduw, mewn gwneuthur daioni i ddy nion. Felly y mae y Bibl yn dysgu i ni ymwrthod a phethau cyfreithlon, llesol, a da ynddynt eu hunain, os bydd y pethau hyny wedi myned a dynion i bechu yn erbyn Duw. Os haerwch fod y pethan meddwol yn dda ynddynt eu hunain, ac mai bai y dynion ydyw eu camarfer; hawdd yw i ninan brofì fod yr aur yn llesol ynddo ei hun, ac mai mewn dynion y mae'r bai o'i gamarfer: etto pan wnaed llo o hono, yr oedd eisiau ei ddifa, Os haerwch