Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

gltftrato t ©ientöttt Rhif. 102.—MEHEFIN, 1835— Pris lc. Cofiant R. Raihes, Yswain, ahanes yr Ysgol Sabbothol. (parhad o du dal. 58.J Er cael cynllun yn sefydliad yr Ysgol Sabbothol, ag oedd yn sicr o beri diwygiad dirfawr yn moesau trigolion y byd,—i daenu gwybodaeth,—i leihau trosedd, ae achub miloedd o'r bobl ieuaiuc oddiwrth bechodyma, a than tragywyddol yn y byd a ddaw; eto yr oedd rhwystrau dirfawr i gael y cynllun i weithrediad cyffredinol drwy y byd. Pa fodd y ceid Ysgol-dai ? pwy ddysgaiy plant ? pa le y ceid llyfrau iddynt ? Gan fod rhyw bethau yn nhrefn yr Ysgolion oedd wedi eu sefydlu, megis dysgu ysgrifenu, a rhifo : ni ellid cael ond ychydig o broffeswyr crefydd yn wresog drostynt, ac nid rhyfedd, canys tybient fod dysgu plant yn y dull hyny, yn anweddas iawn i ddydd yr Arglwydd. Ac am bobl ddibroffes, nid oedd dini a'u cyrn- hellai hwy at y gorchwyl ond cyflog. Ond pa le y ceid digon o arian i dalu cyíìog i'r athraw, am le i gadw ysgol, ac am lyfrau i'r plant ? Er cael meddyginiaeth i fyd claf, pa fodd y dygir y feddyginiaeth i gleifion y byd, heb gael R. Raikes i bob ardal lle yr oedd yr anwybodus yn preswylio ? Nid oes dim yn rhy anhawdd i'r Arglwydd. Cododd R.