Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ATHRAW I BLENTYN. 'Hyfforddia blentyn yn mhen ei ffordd; aphan heneiddio nid ymedu â hi."—Diar. xxii. 6. IONAWR, 1849. 3»TO íl|BiMiÄf9 &®. 0 bob gorchwyl cyfreithlon a wneir dan haul, yr eiddo y morwr, yr hwn sydd yn gwneyd ei waith ar y dyfnder mawr, ydyw yr nn mwyaf peryglus. Y mae yn agored i beryglon oddiwrth dwymynau yn yr hinsoddau crasboeth, a rhewi i farwoîaeth yn yr hinsoddau oerion. Y mae peryglon yn ei aros weithiau oddiwrth brinder ymborth, o herwydd gwynt- oedd gwrthwynebus yn ei rwystro, yn amserol, i'r porthladd addymunai. Eithr ei beryglon penaf sydd oddiwrth dym- hestloedd a thân. Rhydd ein cerfiad am y mis ystormus hwn, olwg ar long fawr mewn ystorm. Y môr rhuadẁyllt