Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

r-r^r+*•*■^fj- atítato t ì&Untnn* Rhif. 38.—CHWEFROR, 1830.—Pris lc. MULTUM INPARYO, NEU LLAWER MEWN YCHYDIG. Cyflawnder a gogoniant Iesu Grist. MAE ei awdurdod yn anamheuol, Matt. 28. 18. Rhuf. 9. 20—23. Mae ei athrawiaethauyn annadleuol, Ioan 7. 17. 2 Tim. 3. 16. Mae ei allu yn aflywodraethol, Esay 63. 1—4. Matt. 16. 18. Mae ei amcanion vn anfethiannol, Psalm 33. 10, 11. Esay 46. 9, 10. Mae ei aberth yn anhebgorol, Ioan 11. 49, 50. Heb. 9. 22. Mae ei addewidion byth yn gydweddol, Heb. 10. 23. Dat. 21. 5. Mae ei amynedd yn anghydmarol, Psalm S6. 15. Heb. 2. 17, 18. Mae ei briodoliaethau yn anwahanol, Psalm 85. 10. Heb. 13. 18. Mae ei Dduwdod yn anghrëedigol, Ioan 1.1. Phil 2. 6. Mae ei deyrnas yn anysgogol, Psalm 45. 6. 1 Cor. 15. 24, 25. Mae ei ddirgelion yn aneglurol, Matt. 13. 11. Rhuf. 11. 33—36. Mae ei ddoethineb yn anchwiliadol, Iob 9. 4. Matt. 12. 42.