Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

mptato i mcntnn. Rhif. 53.—GORPHENAFj 1831.—Pris Ic. PREGETH. " Canys yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad (tra yr vdoedd efe etto yn fachgen) efe a ddechreuodd geisio Duw Dafydd ei dad. "--------2 Cron. 34. 3. YPerson y llafarir am daDo yn y testyn hwn, oedd y brenin duwiol hwnw, sef Iosiah. Efe a ddechrenodd deyrnasn yn wyth mlwydd oed ; ac yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad, efe a ddechreuodd ar y gwaith mawr a phwysig, sef Ceisio yr Arglwydd. Yr oedd amryw bethau yn amgylchiadan y djn hwn a allasai fòd yn rhwystr iddo geisio Duw; megis, ei ieuengctid, eìswydd, ac ymddygiad annuwiol ei dad Amon: ond nerth- wyd ef i dorri trwy y petbau hyn, heb eu cymmer- yd yn rhwystr, fel y gwna llawer; a diau y bydd yraddygiad Iosiab, yn y farn, yn condemnio yr ienengctid sydd yn anghofio eu Creawdwr; y breuhinoedd nad ydynt yn ceisio Duw; y tadau annuwiol, y'nghyda'r plantsyddyn eu dilyn. Gelwir Iehofa yma yn Dduw Dafydd ei dad.-— Y mae yn Arglwydd ar bawb, ond y mae yn Dduw ì'w bobl. " Myfi a fyddaf iddyní hwy yn Dduẃ," yw ei addewid: yr oedd yn Arglwydd ar yr Aiphtiaid, ond yr oedd yn Dduw i Israel; yr oedd yn Arglwydd ar y tàn, ond yn Dduw i'r tri Ilangc;—yn Arglwydd ar y llewod, oud yn Dduw i Daniel. Sylwaf ar ddau beth oddiwrth y testýn------