Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif 189.—AWST, 1842. Pius Id. GWIRIONEDD YN F U DDUGOLIA ETH US. Parhad o tu dal. 104.) Martoolacth Tad Mair. PAN ddeallodd Mair na fyddai ei thad yn hir, aeth i Ellenbrunn, y pentref agosaf atynt yn yr un plwyf ä'r ffarm, a hysbysodd i'r gweinidog afiecìíyd ei thad. Y gweinid- og yma oedd yn ddyn duwiol, teilwng i'w ddilyn. Talodd ymweliad iddynt yn fuan, yr hyn a barhaodd i wneỳd yn fynych, a chafodd lawer o ymddiddanion dyddanus ac adeiladol gyda yr hen wr/ ac ni adawai Mair, un amser, heb roddi cysur íddi, yr hyn a wnai yn wastad mewn modd serchog a thadol. Ffydd, a chariad, a gobaith am fywyd tragwyddol, oedd wedi nefoleiddio ei wedd, nes yr oedd y cysur a deimlai yn amlwg yn eiwynebpryd. Llifai dagrau o lawenydd ar ei ruddiau, gan mor nefolaidd oedd ei deiin- ladau. Mair oedd yn grynedig wrth ochr ei wely, yn wylo, ac yn gweddio. Y ffarmwr, ei wraig, a'r teulu a syn-fyfyriasant uwch ei ben, gan sylwi ar yr oíwg adeiladol ger eu