Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 201. AWST, 1843. Pkis lc. GWNEWCH FRYS. Ymae gohirio yn beryglus mewn llawer o amgylchiadau. Pan fyddo tŷ ar dân, "gwnewch frys," a diangweh, yw y waedd wrth y Hettywyr. Pan fyddo rhyw berson ŵedi ei gymmeryd yn glaf yn ddisymwth, gwnewch frys i gyrchu meddygwr, yw y waedd. Pan fyddo rhyw un wedi ei orddiwes gan dymestl ddych- rynllyd, gwnewch frys i le diogel, yw y waedd. Pan yn cael ein hymlid gan ddrwgweithredwyr, Gwnewch frys, yw y waedd eilwaith, Ond y mae peryglon llawer mwy dychrynadwy nâ yr oll a nodwyd uchod, oddiwrth ba rai y mae angen i ni ffoi a gwneyd brys. Y mae y dymestl ddycu- rynllyd o lid a digofaint y Duw mawr yn crogi uwchben pechadur annychweledig. Gwnewch frys, a cbwiliwch am noddfa yn nghlwyíau Iesu, yr hwn sydd le i ymguddio rhag yr ystorm, ac yn lloches rbag y dymestl a'r rhyferthwy. Cyfiawnder a ddywed, "Tal i mi yr hyn sydd ddyledus arnat." Gwnewch frys at lesu fel eich unig ddiogeliad, yr hwn trwy ei ddioddefiadau a'i farwolaeth boenus a dalodd y ddyled. Y mae dynolryw yn afiachus, pechod yw y dolur, ac y mae miloedd a myrddiynan yn myned yn ddi- welliant i'r gwaeau tragwyddol, He na cheir