Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ATHEAW I BLENTYN, Ihìf. 202, MEDI, 1843. Pris lc. DOSPARTH YR ATHRAWON. Anwyl Frodyr, "M"AE yr Ysgol Sabbathol yn Gadrod yn ■"•*■ myddin yr Oen. Y fyddin sydd i orch- fygu y byd, i gaethiwo pob meddwl i ufudd- dod Crist, i rwymo Satan, a dwyn eglwys Uduw i hâf hyfryd y mil blynyddoedd, pryd y bydd trigolion y byd yn caru eu gilydd fel brodyr, ac nid felymaentynawr,ynniweidio eu gilydd fel bwystfilod y goedwig. "Ni ddrygant, ac ni ddifethant yn holl fynydd fy santeiddrwydd." Y blaidd a'r oen cyd-borant gy lch y gail, Ty wysa y plentyn lew wrth denyn dail; Yr arth gyd ieua â^r ych; mewn dinych dang, A Uyfant seirffyllwchy traed a'u sang. Y baban nwyfus, rhed oddiwrth y fron, I chware â gwiber hyd y barth yn llon, Á. rhifa frychau'r cen aymudliw, hardd, Try'r colyn fforchog cylch ei fys a chwardd. Dywedasom fod yr Ysgol Sabbathol yn rhan o'r fyddin a ddwg y cyfnewidiad hwn ar y byd; rhaid gan hyny, i'r Gadrod hon yn myddin Tywysog Tangnefedd gael ei dwyn i'r cyflwr mwyaf effeithiol.