Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ATHRAW I BENTYtf, Rhif. 204, TACH. 1843. Pris lc. PRGETH I BLANT. "Ni welodd neb Dduw erioed." Ioan. 1. 18. JL A fodd y gwyddis fod Duw ? A welsoch chwi ef ? Na ddo. "Ni welodd neb Dduw erioed." A oes sicrwydd fod pethau yn y byd na welsom ni mo honyntî Oes. Ni welsom erioed Feth- lehem,lle ganwyd Iesu Grist— yr Iorddonen lle y bedyddiwyd ef—mynydd Calfaria Ue bu farw— na mynydd yr olewydd, oddiar ba un yr esgynodd i'r nefoedd. Eto gwyddom fod y fath lefydd. Os na welsora ni hwy gwelwyd hwy gan eraill. Yn awr golygwch na welodd neb y manan yna, a allech chwi wybod fod y fath fanau mewn bod- oliaeth? Na allech yn ddiau. Pa fodd gan hyny y gwyddoch fod Duw? O herwydd fod y dynion santaidd a lefarodd y Bibl yn dyweyd eì fod. Ond pa fodd y gwyddant hwy hyny, gan na welodd neb Dduw erioed ? A allwn ni gredu fod rhyw beth yn bodoli nawelodd neb mo hono? Gallwn. Ewch i'r flFenestr. A welwch chwi y goeden acw yn ysgwyd, y cangenau yn siglo, a'r dail yn ehedeg o amgylch? Pa beth sydd yn gwneyd y cyfFroadan yna ? A ellwch chwi ddy- wedyd? Gellwch: gwyddoch oll mai y gwynt sydd yn siglo y cangenau, ac yn gyru y dail i