Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GOLEUAD CYMRU. Ofawch Dduw. Anrhydeddwch y Brenin. Rhif. CXíI.] CHWEFROR, 1828. [Llyfr v. BYWGRAFFIAD. HANES BYWYD Y PARCH. JOHN NEWTON. (Parhad tu dal, 293. j Gadawsom Mr. Newton ar ganol ei fordaith o Affrica i Loegr; ac yn awr deuwn i adrodd ei helynt oddiyno i ben ei daith. Gadaw- gant Benrhyn Lopez, yngorllewin Affrica, yn nechreu mis lonawr 1784. 0 herwydd gwyntoedd y parthau hyny, hwyliasant yn gyntaf tua'r gorllewin, nes eu dyfod hyd at dueddau y Brazil, ac wedi hyny yn ogleddol, nes cyrhaedd glanau Newfoundland, lle yr oedasant ychydig i bysgota. Ar y dydd cyntaf o Fawrth, wynebasant tuag adref gyda gwynt teg; ond yr oedd y Uong erbyn hyn yn dechreu anmharu yn enbyd, fel yr ofnid mai prin y daliai i gyrhaedd cartref. Yr oeddynt yn awr yn dyfod tua Lloegr yn gyfìym a rhwydd; ond fel yr oedd Mr. Newton yn cysgu yn dawel un noswaith, deffrowyd ef yn ddisymmwth gan ystorm, a'r dwfr yn dyfod arno i'r gwely ; a chyda hyny dyma waedd fod y llong yn myned i suddo. Ym- drechodd i fyned i fynui'rbwrdd, ond daeth y'cadben i'w gyfarfod gan ddeisyf arno gyrcìm iddo gyllell. A thra yr oedd efe yn eí chyrchu, golchwyd ymaith y dyr>. oedd yn cadw ei îe, dros y bŵrdd i'r mcr! Yn y cyfamser yr oedd y llong yn lleuwi yn gyfìym gan ddwfr, felyroeddyni yn disgwyl myned i'r gwaelod bob munud. Ond tua'r boreu, gostegodd y dymhestl ychydig, a thrwy fawr lafur y dwylaw, llwyddwyd i ddiddosi y llestr. Ynghanol y dychryn a'r pergylon yr oe.dd Newton yn ddigon caled i gellwair, ac yn ddigon anystyr- iol i gablu. Yn ddamweiniol, pa fodd bynag, efe a ddygwydd- odd yngan ynghanol y ffwdan, 'Yr Arglwydd a'nhelpio!' Ond ei eiriau ei hun a'i dychrynodd : ' Beth !' eb efe, * Pa help a allaf fi ddysgwyl oddiwrth yr Ar- glwydd ?' Ac am y pryd hwnw y mae efe yn adrodd yn mhellach —Dechreuais feddwl am fy mhroffes grefyddol gynt— am am- rywiol ddygwyddiadau nodedig fy mywyd—y rhybyddion a roesid i mi—y gwaredigaethau gwyrthiol a gawswn—a'r fuchedd afrasol a arweiniais; ac yn enwedig fy nirmyg ar yr efengyl. Oddiar yr olwg ar y pethau hyn cesglais nad oedd bechadnir o'm bath ; a bod fy mhechodau yn ormod i'w maddeu. Tebygwn fod yr ysgrythyrau hefyd yn dyweyd yr un peth ; canys mi a fuaswn gynt yn gyfarwydd iawn yn fy Mibl; ac yr oedd amrywiol ranau o hono yndyfodynawri'm cof, yn enwedig y rhai difrifol a ganlyn:—Díar. i. 24—31. Heb.vi. 4, 6.*a 2 Pedr ii. 20. Fel hyn y dadguddiwyd i miryw radd o'm pechadurusrwydd; ond nid i'r eangder ag y dangoswy d i mi wedi 2 T