Symud i'r prif gynnwys

COtlâHT EOWARD PARRY. 421 byd, ac felly esgeuluswyd ei ys- goleigdod ; ond efe a ddysgodd ddarlìen ac ysgrifenu Cymraeg yn rhagorach na chyffredin ; a chyrhaeddodd y fath raddau o wybodaeth fuddiol nes y raedrai ymadroddi yn synwyrol ar bob mater y soniai am dano. O ran ei berson, yr ydoedd yn ddyn syth, tal, ysgafndroed ; ac efe a weithiodd waith hwsmon hyd onid oedd tua 18 oed; eithr wedi hyny efe a aeth yn brentis o saer coed. Yn y fl. 1742, bu eira mawr ar y 5ed dydd o hen haf, ac yr oedd Edward Parry yn ei fesur ar ei fuarth ei hun yn 15 mod. o ddyfn o eira gwastad. Gwnaeth 2 neu 3 o bennillion prydyddol ar yr achos, y rhai nid ydynt ar gof yn bresennol; ond yr oedd un yn diweddu fel hyn :— " O rhyfedd fel trefnodd ef gelloedd yr iâ ! Pabam y'daeth eira y pummed o ha' ? " Dyma y "tro cyntaf y sylwyd fod ynddo ddawn brydyddol. Fe aeth ar amserau ar ol hyn gyda Thos. Edwards o'r Nant i chwareu Interludes; ac wrth fod ei ddawn yn cynnyddu, dywedir iddo fyned yn ddigrifach nag yr un o'r gym- deithas. Felly cyn hir gadawodd gwmn'iaeth Thomas Edwards, a throes i wneyd rhai ei hun, a daeth dynion cyfrifol atto i'w chwareu; ond nid er eu helw eu hunain, eithr er cynnorthwy pobl dlodion, neu dafarnwyr gweiniaid. Mi a glywais T. Edwards yn dywedyd na welodd efe neb a dawn mor barod ag Edward Parry: y canai ar y tcstun a fynid yn union- gyrchol. Tua'r fl. 1746, efe a t.'iododd Gwen, merch Dafydd Hughes 0 Blâs Pigod, yn mhlwyf Llansan- nan, ac ar yr achlysur efe a gaf- odd dipyn o gynnorthwy i drîn îr. Cymmerod d dyddyn bychan, a elwir Cefn-byr, yn agos i Lan- sannan. Ond etto yr oedd efe yn par- hâu i ddilyn ei ofer-gampiau, gyda 'i gyfeillion llawen ; ac fel yr oeddynt ynghyd ryw dro, (ar y sabbath, raae'n debyg) wedi clyw- ed o honynt bod oedfa yn cael ei chynnal yn yr Henllŷs, yn mhlwyf Llanfair-Talhaiarn, dywedai y naill wrth y llall, ' A ddowch chwi yno ?' eb un, ' A ddowch chwi yno ì' eb y llall. Felly myned a wnaeth 8 neu 10 o honynt ; ond nid ydys yn medd- wl mai i'r dyben o erlid, eithr er mwyn digrifwch. Pafoddbynag dychwelodd pob un o honynt ad- ref dan ryw radd o argyhoedd- iad ; a pheth bynag am y lleill, ni wisgodd Ed. Parry byth mo hono ymaith. Dafydd Wiliam Rhys oedd enw y pregethwr ; yr hwn a arferai Ed. Parry o hyny allan ei alw, « Fy nhad.'—Nid oedd y pryd hwnw, oddiyno i Adwy'r Clawdd, gerllaw Gwrec- sam, un lle i bregethwr ddisgyn; ac yr oedd yn bur derfysglyd ar feddwl Ed. Parry dranoeth, fel yr oedd yn gweithio ei grefft ar ei fuarth ac yn dysgwyl y pregeth- wr heibio. Yr oedd yn bwriadu myned i siarad ag ef; ond pan y'i gwelai yn dyfod yn araf a'r ffrwyn ar war ei geffyl, a Ilyfr yn ei law yn darllen, fe gychwynodd i fyned i'w gyfarfod ; eithr wrth ystyried pa beth a ddywedai wrtho, efe a aeth yn rhy ddigalon i fyned atto. Rhagllaw fe ymadawodd a'i hen gyfeillion cellweirus, gan fyned i wrandaw pregethau ar bob cyfleusdra a gaffai. Yn fuan wedi hyny cymhellodd bregethwr o'r Deheudif i ddyfod i'w dŷ i bregethu, yr hwn yn awr nid wyf yn cofio ei enw; ac ymhen enyd cafodd Ddafydd Wiliam Rhŷs hefyd i'w dŷ: a dyma'r drŵs