Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

COFIAXT EDWARD PARRY. 491 hithau yn waelaidd; bu dda gan- ddi bod cartref heb ei chwalu i ddychwelyd iddo. Pan oedd Henry Roberts yn marw, yr oedd yno dŷ adfydus iawn, canys ar yr un awr yr oedd y wraig yn esgor ar ferch mewn ystafell arall; ac an- ghysurus iawn a fu ei hamgylch- iadau dros hir amser wedi hyny nid yn unig o ran ei helyntion tymmorol, eithr hefyd meẃn perthynas i'w chyflwr ysbrydol ; gan fod yn barod i adael pob peth er mwyn dilyn crefydd, pe buasai le i'w mwynhâü. Ymhen rhyw ysbaid o amser wedi iddi nacâu cymdeithasu ag Ed. Parry, y tro cyntaf, efe a y rodd lythyr atti drachefn gyda yr un genad ag a fuasai droslo y tro o'r blaen. Yn y llylhyr hwnw efe a dynodd ddarluniad o'i chyflwr yn y fath ddull boddhâol iddi, gan sicrhâu mai nid ymorol yr oedd efe am olud bydol, eithr am un i'w helpio i ymgeleddu Eglwys Dduw. Ar ol darllen y llythyr, hi a ddaeth at y genad gan led wcnu a dywedyd, "Ai prophwyd yw Ed.Parry? y mae yn sôn yn ei lythyr am bethau yr oeddwn yn tybied nad oedd neb ond yn Arglwydd a minnau yn eu gwybod. Ni fyddaf gwaeth er siarad ag ef dros ychydig," Pa fodd bynag, prì'odi a wnaeth- ant cyn pen y flwyddyn, sef yn 1765. Ychydig yn flaenorol i hyn fe ddechreuasai Ed. Parry bregethu drachefn. A'r sul ar ol eu priodi fe ddaethgwrdleithr i bregethu i'r Bryn-bugad ; a'r un noswaith yr oedd yntau yn preg- ethu yn nhŷ ei wraig. Oddeutu yr amser yma, fe ddaeth Mr. Hughes, person o'r Ysbyttý, drwy'r wlad i bregethu ; Mr. Hughes o sîr Fôn y byddai rhai yn ei alw ; ac fe'i debyniwyd ef i ArllWyd, sef tŷ gwraig Ed. Parry, yr hwn le ydoedd yn gyfagos i derfyn Lansannan, Llannefydd,aHenllan. Taenwyd y sôn am hyn drwy'r holl wlad, a daeth ynghyd bobl o bob parth i wrando, fel nad oedd modd myned yn agos i'r tŷ ; ac ar riniog yr ysgubor yn y buarth y byddai Mr. Hughes yn sefyll i bregethu. Fe fyddaiefeyndyfod yno bob tair wythnos neu fis; ac ereill hefyd addeuentpan fyddai cyfleusdra, Wrth hyn drachefn fe lidiodd offeiriad plwyf Llansannan, ac a anfonodd at offeiriad plwyf Hen- llan, yr hwn oedd gyfaill mawr i feistr tîr Ed. Parry, ac yn y dull hwnw llwyddasant fel y bu iddo ef gael rhybydd i ymadael o Arlìwyd, lle yr oedd efe yn bwr- iadu byw o hyny allan yn bytrach na'r Bryn-bugad, am ei fod yn well tyddyn. Felly fe aeth i dalu ei rent am y Bryn, ac i'w roi i fynu; a'i wraig a aeth i dalu am Arllwyd: ond ynewyddoedd ganddi yn dyfod adref oedd, y byddai raid iddi ymadael a'i thy- ddyn ymhen y tymmor. Yr oedd ganddyntddau dyddyn megys yn y boreu, ac heb yr un cyn nôs! Ymdrechodd amryw wŷr cyfrifol ymhlaid Ed. Parry er cael ohono Arllwyd; ond oll yn ofer. Erbyn hyn yr oedd perchenog y Bryn wedi digio wrtho am roi ei dyddyn ef i fynu ; ond gan na ddaeth neb fw geisio, efe a'i cafodd drachefn. Ar ol i Ann Gruffydd ddyfod i fyw at Ed. Parry i Fryn-bugad, yn y fl. 1767, fe aeth y diwygiad ymlaen gyda llwyddiant i'w ry- feddu. Yr oedd pregethwŷrMôn ac Arfon a Fflint yn dyfodŵwy y wlad yn rhëolaidd; a thri chedyrn y Bala yn eu tro, sef John Evans, Humphrey Edward, a l'homas Foulkes. Yn fuan darfu i ychydig nifer ymgyssylltu ynghyd i gadw moddion neilldu- ol yn nhŷ y Bryn-bugad, bob dydd iau yn yr hwyr. Dyma 'r