Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GOLEUAD CYMRU. OFNWCH DDUW. ANRIIYDEDDWCH Y BRENIN. Rhif. cxli.] GORPHENAF, 1830. [Llyfb VII. BYWGRAFFIAD. COFIANT AM MR. JOHN OWENS, RHOSLLANNERCHRYGOG. Gerllaw Giorecsam. John Owens ydoedd fab i John ac Ann Owens o Ruabon ; gan- wyd ef A wst 4. 1812. Bu ei dad a'i fani feirw pan oedd efe yn ddwy fiwydd oed. Efe a fagwyd gan ei ewythr a'i fodryb, ac fe'i dygwyd i'r Ysgol Sabbothol mor fuan ag y gallai ddeall swn a llun y llythyrenau. Gan fod ei rieni wedi gadael digon o eiddo i'w gadw, a'i ddwyn i íÿnu, efe a roddwyd mewn ysgol arall bob dydd, nes y dysgodd ddarllen yn fuan; ac fe fu mewn amryw ys- goiion, nesoedd yngbylch löoed; ac o herwydd ei fod o gynneddfau cryfion a threiddgar, yr oedd er- byn hyn yn meddu ar ddysg yn líed helaeth. Yr oedd o ran ei dymherauyn ddwys, addfwyn, a siriol ; ac yn isel a gostyngedigyn ei ymddyg- iad, yr hyn a barodd iddo gaeì ei garu yn gyffredinol, ac ymddang- osodd arwyddion o ras ynddo, pan oedd oddeutu deg mlwydd oed. Yn fuan wedi hyn, hysbys- odd ei fwriad i flaenor egìwysig, pertbynol i'r Methodistiaid Cal- finaidd, ei fod am wrieyd proffes gyhoeddus o'r Gwaredwr, drwy ddyfod i gymdeithas eglwysig; ac wedi iddo ddyfod, synodd y gynnulleidfa ei glywed yn dy- wedyd ei deimladaü, gydâ'r fath bwys a synwyr, tebycach i hen wr na bachgenyn; a thrwy ei waith yn darllen, ac astudio yr ysgrytbyrau a llyfrau ereill, cyn- nyddodd i radd helaethach na nemawr mewn gẅybodaeth, ac yr oedd yn cynyddu yr un modd mewn profiad, ac ymddygiad add* as i'r Efengyl. Pan oedd oddeutu pedair ar ddeg oed, dangosodd awydd cryf am fyned i weinidogaeth y gair; etto gydâg ofnau mawr y soniai am hyny; ond cymaint oedd yr hyfrydwch a gawsai Uawer wrth ei glywed yn gweddio, ac yn ym- ddiddan gyda'r fath wybodaeth, profiad, difrifwch, ac hyawdledd, fel yr annogasant ef i fagu y duedd a deimlasai. Ond, gan ei fod yn waei ac afiach nid oedd yn myned nemawr oddi cartref. Synai llawer wrth weìed un mor fachgenaidd yn dringo i'r areith- ,fa, ond buan y byddai pawb yn synu mwy, wrth ganfod ei wybod- aeth eang, ei ddwysder mawr, a'i hyawdledd gostyngedig, Mae wedi gadael ar ei ol raì pregethau a gyfansoddwyd gan- cido pan yn bedair ar ddeg oed: yn y rhai y mae cynneddfau mwy na chyffredin yn ymddangos. Byddai yn gweddio llawer yn ddirgel er yn blentyn, ac fel yr oedd yn dechreu ar y gorchwyl o gynghori, byddai yn gweddio llawer amlach nag o'r blaen. Yn fuan wedi iddo adael ei un ar bymtheg oed, sef yn y gwanwyn canlynol, gwelwyd ei fod yn tueddu i'r clwỳ a elwir y darfod- igaeth, ac ymgynghorodd a medd- ygon yn mheli ac yn agos, ond nid oedd dim yn tyccio i'w 2c