Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

&RKL4X Y BEDYBDWlíR. Rhif. 129.] MEDI, 1837. [Cyf. XI. AR HEN DDARNAU ARIANOL PRYDAIN A'R IWERDDON. Gan Syr Samüel Rush Meyrick. T7" Mae yn agos i ddwy flynedd* wedi myned heibio er pan ddarfu i Gym- deithas y Cymrodorion gynnyg fel gwobr- wy, am y Traethawd goreu yn Saesnaeg, y tlws breiniol,â phumpg-tní, pwngcyr hwn oedd i fod, *' Ymchwü i ddarnau arianol (coinage) yr hen Frytaniaid o'r tymhor boieuaf, ond yn fwy neillduol o ymadaw- iad y Rhufeiniaid hyd farwolaeth Liew- elyn ab Grnffỳdd." Yr wyf yn dechreu, gan hyny, ofni na fydd i'r byd Hëenyddol gael dim goleuni ar y pwngc hwn. Nid Oes neb ond Cymro, ag a fyddo yn adna- byddus yn marddoniaeth y tymhor olaf, yn alluog i gael wrth ei law unrhyw hanes debygol o roddi yr eglurhad ; oblegid os yw y cyfryw yn bodoli oll uid oes dim ammheuaeth nad y gweddillion hyn o dra- íodaeth neillduol ydynt y ffynnouau teb- ycaf i ni ddysgwyl eu cael. Mewn ffordd o annogaeth i'ch gwlad- wyr i wneud yr ymchwil, mi a'ch tra- fferthaf à'r hyn sydd wedi dygwydd i mi ar y pwngc, gan gyfaddef yn deg nas gaüaf foddloni fy hun yn mherthynas i ba wn a oedd neu nad oedd y tywysogion Cymreig yn bathu arian, er fy mod yn tueddu yn gryf i farnu eu bod. Y mae yr iaith Gymreig mor addysgiadol, neu ei gwreiddiau, pan yn cael ei threiglo yn naturiol, fel yr wyf wedi ei gosod yn rheol yn mherthynas i bob peth pei thynol i Walia, a hen Frydain, i edrych pa hys- Cafoddy darn hwn ei ysgrifenu yn 1833.— Cyf..X. bysiaeth a rydd. Pan y mae y pwngc o'r henafdod mwyaf, yr wyf yuedrych pa un a eliir cael gwreiddiau y gair yn deilliaw o'r Ladinaeg, oblegid, os felly, yr wyf yn golygu fy hun yn rhwym, yn y rhan fwyajf o achosion, iganiatâu fodjy Bry taniaid wedi eigaeloddiwrthy Rhufeiniaid; ond osbydd yn frodorol, yr wyf yn golygu fod genyf hawl i'w olygu yn gyntetìg Frytanaidd. Yn awr, y gair Cymreig a ddefnyddir yw Aiíian, yr hyn a ddengys fod y dra- fodaeth arianol yn myned yn mlaen trwy arian (sifoer); ond gan y dichon ei fod yn dyfod o Argentum, fel y mae llawer wedi dadleu, ni honaf ei fod yn Frytanaidd, pa mor gadarn bynag y dichon i mi fod yn ei olygu ef. Ac aur (aurum) yn eiriau cellt- egaidd. Ond er fy mod yn caniatâu, gyda y Dr. Wotton, yn mhlith y geiriau am arian, y dichon punt fod yn deilliaw oddiwrth y Pondus Rhufeinig, Morc o'r Sacsoneg Meare; Swllt, o Solidus; DiM- meu o Ditnidium; a Ffyrlling o Ffoerth,- ling; eto nis gallaf ganiatân fod Cein- iawg yn dyfod o Pecunia, na Cuneus. Yn Ceiniawg, gan hyny", yr wyf yn credu fod genym air cyntefig, yr hyn sydd yn dangos fod ar un auiser ddarn o fetel o faintiolaeth a chymineriad yn cylchredeg yn mhlith y Brytaniaid; ac oddiwrth îbd y gair am arian yn arwyddo arian (sifoer) yr ydyra yn gwyGod ei natur. Yn awr y mae y Dr. Owen Pugh, gyda nrwý o briodoldeb, yn tynu Ceiniawg oddiwrth y gair Brytanaidd Coin,—dys- 33