Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GREAL Y BEDYDDWYR. Rhif 3.] MAWRTH, 1827. [Cyf. I. PARHAED BRAWDGARWCH." BYWGRAFFIAD Y DIWEDDAR BARCH JOHN DAVIES, CAPEL-SEION, SWYDD FYNWY, Yr hwn a ymadawodd â'r fuchedd hon Awsí òed, 181G. TESTUN y Bywgraffiad canlyn- ol a anwyd o rieni gonest a diwyd, yn nghymmydogaeth Cas- tellnewydd yn Emlyn, Swydd Gaerfyrddin, Chwefror 17eg, 1784; Pan oedd o gylch dwy flwydd oed, efe a achubwyd mewn modd cyf- yng rhag llosgi i farwolaeth yn nhý eidad, yr hwn a gymmerodd dân, ac a ddifàwyd yn gyfangwbl. Pan oedd o gylch chwech mlwydd oed, bu mewn perygl o foddi; eithr y Trefnwr mawr a'i achubodd rhag bedd dyfrllyd. Ei rieni, yn ofalus am ei lwyddiant rhagllaw, a'i dan- fonasant i'r ysgol yn lled ieuanc, fel y gallai ddysgu yr ysgrythyrau, a'i addasu i ryw sefyllfa isel mewn bywyd; a mawr foddlonwyd hwynt trwy y serch a ddangosodd at ei lyfrau, a'rcynnydd cyflym a wnaeth yn ei ddysgeidiaeth. O ran amser pendant ei argyhoeddiad, mae, i raddau, yn aneglur. Cafodd ryw wybodaeth o fíbrdd iachawdwriaeth pan yndraieuanc; ac yr oedd ei feddwl, ar amserau, yn ẁasgedig gan wiredd a phwysfawrogrwydd pethau byd arall; eithr adfyfyrdod- au difrifol, a theimladau ei feddwl y blynyddoedd hyny oeddynt rhy de- byg i gwmmwl y boreu, ac fel gwlitb. Cyf. I. boreuol, yn ymado. Pan yn wyth mlwydd oed, cafodd y frech wen, yr hon a'i dygodd, mewn ymddang- osiad, i ymyl tragywyddoldeb; ym- welodd amryw bobl grefyddol âg ef yn ei glefyd, ac ymddyddanasant àg ef am bethau dwyfol; a chafwyd Uawer o le i obeithio fod ganddo adhabyddiaeth gadwedigol o'r Ar- glwydd lesu. Yroedd difrifoldeb marw a thragywyddoldeb yn cyffroi ei galon; ei olygiadau o ddigonol- deb darpariadau yr Efengyl i atteb anghen pechadur, a wasgarodd ei ofnau, ac a anadlodd ynddo obaith a llawenydd mewn rhag-olwg ar ei ymddattodiad. Gan gyfeirio at weithrediadau ei feddwl yn yr am- ser uchod, " Yr wyf yn adgofio," eb efe, <funnoson yn neillduol, y cymmerodd fy nhad fi ar ei glun, gan feddwl fy mod yn týnu yr an- adliad olaf; beth bynag, teimlais fy hun yn adfywio, a deisyfais ar un oedd yn bresennol roddi BeiW i mi. Cynnygais i ddarllen Salm, ond methais, a gorfu arnaf i roddi y Beibl heibio; ynaadroddais ben- nill o Emyn, ag oedd yn cyfeirio at iachawdwriaeth trwy Grist i bech- aduriaid coìledig a dinerth; byn a wnaethum gvdâ tìieimlad o bwysig- 10