Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GREAL Y BEDYDDWYR. Rhif. 11.] TACHWEDD, 1827. [Cyf. I. "PARHAED BRAWDGARWCH." COriANT Y PARCH. TIMOTHY THOMAS, hlington, Gweinidog Eglwys y Bedyddwyr yn Devonshire-Squarey Uundain. MR. TIMOTHY THOMAS oedd ail fab y diweddar Barch. Jo- shua Thomas o Lanllieni, Awdwr Ha- nes y Bedyddwyr, 4"c. Sfc. Ganwyd ef Hydref 20fed, 1753, a chafodd boh addysg ddymunol, a hyfforddiad cref- yddol, tra yn ei faboed, ag a allasai ddeilliaw oddiwrth ofal parhaus rhi- aint gwir dduwiol. Ymddengys iddo gael ei ddwyn i adnabyddiaeth o'r gwirionedd yn dra bore; oblegid tua diwedd ei brentis- iaeth, Tachwedd 9fed, 1774, cyniiyg- iodd ei hun i gymdeilhas yr eglwysyn Devonshire-Square, yr amser hwnw dan ofal gweinidogaethol y Parch. J. M'Gowan, ysgrifenadau yr hwn sydd dra adnabyddus. Dwy flynedd ar ol hyny, yn 1776, dymunwyd arno Iefaru o flaen yr eglwys, gydâ golwg ar iddo fyned i waith y weinidogaeth. Ar- weiniodd hyn iddo gael ei ddanfon i atluofa Caerodor, y pryd hwnw dan arolygiad y Parch. Hugh Evans, A.C. a'i fab y Parch. Dr. Caleb Evans.— Ni alwyd Mr. Thomas allan i bregethu cyn y gwyliau yn 1779, pryd, ar y 3édd o Fehefin, yr annogodd yr eglwys ef i bregethu yr efengyl He bynag yr agorai Rhagluniaeth ddrws o'i flaen ef. Ar y 22ain o Dachwedd, 1780, ysgrifenwyd atto i Gaerodor, gan yr eglwys yn Devonshire-Square, i ddymuno arno ddyfod î'w cynnorthwyo dros ddau neu Cyf. I. dri mis, oblegid fod eu gweinidog yn sal iawn. Arwyddwyd y Hythyr gan Mr. M'Gowan ei hun, yr hwn a fu farw y prydnawn Sabbath canlynol. Pre- gethodd Mr. Thomas yno, Tachwedd 20ain, a pharhaodd i wneuthur felly, cyd ag y bu alluog i bregethu. Awst 13eg, 1781, dewiswyd ef yn weinid- °g yr eglwys trwy bôl-fwrw (ballot.) Ymddangosai nad oedd yr holl aelod- au yn unfrydig, yr oedd 77ain drosto ac 16egyn ei erbyn. Medi20fed, 1781, cymmerodd ei urddiad le. Y gwein- idogion a fuant yn cynnorthwyo oedd- ynt y Parchedigion Martin, Wallin, Booth, Reynolds, Rippon, KnowIes, a Claik. Traethwyd y bregeth ar ddy- ledswydd y gweinidog gan ei dad, Mr. J.Thomas, oddiar 1 Tim. 6.20, " O Ti- motheus, cadto yr hyn a roddtoyd i'v> gadw attat, fyc." Pregethodd Mr. Booth ar ddyledswydd yr eglwys. O'r holl weinidogion a gymmerasant ran yn yr urddiad, nid oes yr un o naddynt yn fyw yn awr ond Dr. Rippon. Yn ystod blynyddau cyntaf gwein- idogaeth ein cyfaill caredig, yr oedd amrai bethau yn yr eglwys i'w wneyd yn anghysurus. Yr oedd Ilawer o'r aelodau yn esgeuluso eu cyd-gynnull- iad, ac nid oedd ymweled â hwynt yn cael dim effaith. Yroedd anfoddlon* rwydd o'r ddwy ochr wedi cynnyddu i'r fath raddau, fal y danfonodd Mr.