Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GREAL Y BEDYDDWYR. Rhif. 12.] RHAGFYR, 1827. [Cyf. I. PARHAED BRAWDGARWCH: COFIANT Y PARCH. TIMOTHY THOMAS, Islington, Gweinidog Eglwys y Bedyddwyr yn Devonshire-Square, Llundain. (Parhad o tudal. 327.) <■<■ A gaf fi erfyn arnoch chwi etto, fy anwyl gyfeillion, i'w gofio yn ei gym- roeriad gweinidogaethol a bugeilaidd. " Yr oedd yn bregethwr Cristionogol, ac o ganlyniad yn pregethu Crist. Yr oedd ei destun bob amser yn gyssyllt- iedig â gogoniant, gras, a llywodraeth Crist. Nid oedd yn cyfyngu ei hun i ychydig o bynciau neillduol, ond pre- gethai i chwi air Duw yn ei holl he- Iaethrwydd, yn ol mesur y dawn a dderbyniodd oddiwrth yr Arglwydd. "Ei olygiadau crefyddol oeddynt Galfinaidd, ac nid Arminaidd; ac roewn duwinyddiaeth, Dr. Owen oedd eibrifddewis-ddyn. Nid oedd,pa fodd bynag, fel yr wyf yn deall, yn ddeled- wr mawr i Esponwyr, hen na diwedd- ar, Brytanaidd naThramor. Yroedd yndarllen yr ysgrythyrau efo meddwl hebei Iyffetheirio; a'r hyn a dynai o'r flÿnnon yn groyw a dihalog a ddygai i chwi. "Fel bugail, chwi wyddoch mor awyddus y gofalai am eich sefyllfa, ac iddo, yn ngwemyddiad ei ddyled- swydd, sicrhau ar unwaith eich parch a'ch cariad. Gwelsoch y gwyddai pa fodd i gynnal ac amddiff'yn iawnderau y bobl, iawnderau y swyddogion, ac awdurdod goruchel Crist ar ei dŷ ei hun. Yn yr ymarferiad mwyaf poen- us o ddyscyblaeth, yr hwn ni oddefai Cyf. I. i gael ei esgeuluso, gwelsoch y gwyddai pa fodd i gyduno gerwinder i'r trosedd, â chyd-ymdeimlad mwyaf careugar tuag at y troseddwr. " Pan yr ymddangosai yn anghen- rheidiol i gael dyn ieuanc i'w gynnor- thwyo, gwnaeth gyd-ymegnio tuag at gael hyny ben yn y modd mwyaf pa- rod a gweddus: ac yn mhellach, an- nogodd yn gryf ar fod i'r gweinidog cynnorthwyol gael ei gyfansoddi o'r dechreuad yn gyd-weinidog âg cf, fel pan dygwyddai ei farwolaeth, na fyddai dim anghenrheidrwydd am sefydliad newydd. Yn yr holl orchwyl hwn yr oedd ei fawredigrwydd a'i hunan-ymwadiad, ei gariad at yr eg- lwys, a'i sèl o barth cynnydd achos Crist yn dra amlwg. V Oherwydd pwys trwm blynyddau a Ilesgedd, yr oedd bron ynhollol wedi rhoddi heibio pregethu a'i ofal bugeil- aidd; etto, yr oedd ei ofalon fel ym- ddiricdolwr mewn amryfal elusenau pwysig, yn parhau yn dra niferog. Mac yn dra boddhäol ac adfywiol i feddwl fod ei gymmeriad personol fcl Cristion, y blynyddau diweddaf o'i fywyd, fel haul ardderchog yn myned i lawr, yn ymddangos yn fwy i'n Ily- gaid; a bydd i'w enw arogli yn bc- raidd fel rhosyn, ar ol i'w gorff bydru yn y bedd hwnw,yn mha un;dydd Iau 46