Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ŴREAI, Y BEDYDDWTR. Ehif. 86.] MAWRTH, 1834. [Cyf. VIII. RHEOLAU GWIR GREFYDD, Mr. Golygydd, |^j.an i chwi fod mor garedig a rhoddi lle i fy nodiadau ar Gre- fydd, yn eìch rhifyn am Ragfyr, 1833, wele fi yn anturio danfon atoch etto ychydig nodiadau ar y rheolau perffaith a roddwyd gan y Jehofah , er iawn gred ac ymarferiad o grefydd dan y gwahanol oruch- wyliaethau. Yr oedd fFydd, neu grediniaeth yn nystiolaethau Duw, yn hanfodol i wir grefydd er dechreu y byd, fel y dengys yr apostol yn amlwg yn yr unfed bennod ar ddeg o'r epistol at yr Hebreaid. Yr oedd cariad at Dduw a dyn yn brif eg- wyddor gynhyrfiol yn yr ymarferiad o wir grefydd ymhob oes; heb yr egwyddor fywiog a santaidd hon ni bydd ein deall, ein rhinweddau, ein dysg, ein doniau, na'n holl swn am grefydd, yn ddim amgen nag efydd yn seinio neu symbal yn tingcian. Y mae gobaith hefyd am fwynhad o ddedwyddwch yn ei berfFeithrwydd, yn ol addewidion Duw, yn y byd a ddaw, yn hanfodol i wir grefydd. Ond y peth sydd genyf mewn golwg i wneuthur rhai nodiadau arno yma ydyw, y rheolau uniawn a roddwyd gan Dduw, trwy ei ddatguddiad dwyfol, fel sylfaen fFydd ac ymar- feriadau i wir grefyddwyr. Nid yw rheolau gwir grefydd yn gorwedd mewn unrhyw osodiadau dynol, gwladol, cymmanfaol, nac eglwysig, y rhai ni feddant na pher- fíeithrwydd deallnac awdurdod i osod CYF. VIII. rheolau perthynol i wir addolìad y Duw byw, canys dynol a chnawd- ol ydynt ar y goreu, ac nid dwyfol. Nid yw y ddeddf foesol, sef y deg gorchymyn, ychwaith wedi cael ei hamcanu gan y Jehofah fel rheol o fiydd ac ymarferiadau crefyddol; pe amgen ni buasai yn ofynol rhoddi yn gyssylltiedig â hi, ar Sinai, y ddeddf ddefodol neu seremoniol, er cyfar- wyddo y bobl i ddwyn ymlaen eu haddoliad yn holl wasanaeth y cys- segr. Drych cywir yw y ddeddf foesol i bob creadur rhesymol, yn gystal annuwiol a duwiol, i ganfod trwyddi hi yn berffaith ei ddyled- swydd tuagat Dudw, a thuagat ei gydgreadur, yr hon ddyledswydd a dardd yn yr egwyddor hyfryd o gar- iad tuagat y naill a'r llall, yn ol cyd- bwys teilyngdod y gwahanol wrth- rychau; lle y dangosir fod Duw yn deilwng o'i garu gan bob dyn a dynes â'u holl galon; a'n cym- mydogion, nid ein cyfeillion fel y cyfryw, ond pob dyn, fel ein cyd- greaduriaid, sydd yn wrthrychau teilwng o'u caru fel ni ein hunain. Llawer o chwilio, ymddiddan, ac ymdaeru, sydd wedi bod ynghylch a ydyw y ddeddf foesol yn rheol byw- yd i'r credadyn dan yr efengyl ai peidio. Y gwirionedd yw bod y ddeddf yn rheol ac yn glorian gywir i fesur wrthi, a phwyso ynddi brif anian, tuedd feistrolaidd, neu eg- wyddor pob perchen enaid rhesymol, yn gystal credadyn ag anghredadyn,