Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

OREAË, Y B£D¥ IMtlWlt Rhif. 92.] AWST, 1834. [Cyf. VIII. TRAETHAWD AR LAWENYDD; A DDARLLENWITD GER GWYDD DIRPRWYWYR ATHROFA Y FENNI AR DDYDD YR HOLIAD BLYNEDDOL, MAI 23, 1834. " Calon lawen a wna wyneb siriol, ond trwy ddolur y galon y torir yr ysbryd."—SoLOMON. " No man imparteth his joy to his friend, but he joyeth the more; and a'o man imparteth his grief, but he grieveth the less."—BAGON. t lawenydd sydd hyfrydwch adfyw- l^iawl a genedlir trwy dderbyniad uniongyrchol o unrhyw beth dymun- awl, neu ryw beth eglur a fyddo yn gynnyrchiawl o fuddiant neilldu- awl, neu ynte ryw beth ag a add- awo gyfranu at ein dedwyddwch presennawl neu ddyfodawl. Y dy- ddanwch yma yn aml a fwynheir trwy waredigaeth oddiwrth amgyff- redion ofnus a dychrynllyd, neu ryddhad allan o sefyllfa o galedu; a thrwy fwynhad o ryw ychwanegiad newydd at drysorau ein meddiant, neu gyflawn sicrwydd o hyny, heb un cymmysgedd o ammheuaeth. Nid oes un ymdrech o eiddo yr ew- yllys a ddichon attal y teimlad ei hun pan yn gweithredu yn nerthawl, a phan byddo y llawenydd yn ang- hymmedrawl nis dichon nerth pen- derfyniad gelu na chuddiaw yr ar- wyddion allanawl o hono. Sirioldeb sydd radd isel o lawenydd, yr hya a ddichon dyn ei fwynhau trwy ddy- gwyddiadau, os byddant o ran eu natur yn cydweddu â'r chwen- nychiad, ac yn ddymunawl i'r teim- lad, y rhai uad ydynt yn ddigonawl i greu pêr lewygfeydd Uawenydd, ac i adfywiaw cymmaint ar yr ysbryd nes ei orchfygu gan orfoledd. Gellir galw Uawenydd cymmedrawl yn sir- ìoldeb, llawenyddgreddfawl yn llon- Cyf. VIII der, a llawenydd buan a nerthawl yn ymorfoleddiad. Pan gyrhaeddo dyn wrthrych ei ymhyfrydiad ac ei chwennychiad, y dymher nesaf a ganlyna ydy w llawenydd, yr hon,pan weithreda yn nerthawl, a orbwysa yr holl dristwch a'r blinderau blaenor- awl, yr hyn a genfydd y syllydd yn eglur wrth agwedd y corff. Gwelir adfywiad cysürlawn yn yr ysbryd, adloniad gwreichionaidd yn y lly- gaid, a llesmeirioldeb dymunawl yn yr wynebpryd. Y dyn, pan eillenwir â llawenydd, a gyfyd ei ben o'r llwch, a syth-agwedda ei gorff, ac a lafarayn hyawdl a dia^ttâì. Weith- iau clywir ef yn uchel godi ei lais mewn gorferwad gorfoledd, gan groch-floeddiaw a ìlamu, o herwydd ei orchfygu gan lawenydd. Pan gyfarfyddant llawinydd a chariad ynghyd, effeithiant mor nerthawl ar y cyfansoddiad nes attal y tafod i lafaru, >. a thynu ffrydiau o ddagrau llan o'r llygaid. Achosion hanfodiad llawenydd yd- ynt amrywiawl agwahanawl. Y dym- her a gynhyrfir mewn rhai yn gynt nag eraill, a thrwy offerynau gwan- ach, a llai effeithiawl: hyny a ym- ddybyna ar nerth ac ansawdd y cyfansoddiad. Medr un ddal heb arwyddaw ond ychydig o lawenydd mewn gwaredigaeth oddiwrth ryw 29