Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YK OENIG. 81 CRIST HANESIAETH. Crist Hanesiaeth ; dadl yn cael ei selio yn ffeithiau eifywyd ar y ddaear. Gan Johu Young, M.A. Nid oes un enw "dan y nef" wedi tynu cymaint o sylw y byd—wedi peri cymaint o siarad ac ysgrifenu am dano—nac wedi peri cymaint o ddadleu am garacter yr hwn a'i dygai, a Iesu Grist. Ac ni fu yr un llyfr erioed dan y fath gyfres o brawfiadau llymion, yn ei gysylltiad a'i ysgrifenwyr, ei athrawiaeth, ei amserydd- iaeth, &cc, a'r Bibl; gan gyfeillion a gelynion, yn mhob gwlad, ac yn mhob oes. Ac y niae yn parhau trwy yr holl ganrifoedd i dynu yr un sylw, ac i gynyrchu yr un dyddordeb yn mysg perchenogion meddyliau o'r dos- barth blaenaf, o oes i oes: ac y mae y byd mor fyw gyda'r gorchwyl y blynyddau hyn ag oeddent fil a haner o flynyddau yn ol. Y mae hyn yn ffaith bwj-sig am y Bibl a'i gynwys, ac yn llefaru cyfrolau am dano. Nis gall y byd adael y Bibl yn llonydd. Os na í'ydd yn foddlon i'w egwyddorion—os na fydd yn cydymdeimlo a'i ddatguddiedigaethau a'i addysgiadau, rhaid iddo gasglu yn nghyd ei alluoedd gweiniaid, ac ymladd yn ei crbyn. Ond a dyweyd y lleiaf, y mae y Bibl yn dal ei dir dan bob prawfiadau, ie, yn enill mantais a dylan- wad newydd oddiwrth holl ymosodiadau ei elynion arno, yn gystal ag oddiwrth 3-mchwiliadau a goleuni cynyddol addysg a gwybodaeth. Llawer llwybr a gymerwyd gan Gristionogion i gadarnhau dwyfoldeb y Bibl, a dwyfoldeb y Gwr sydd yn brif destun iddo, sef Iesu Grist. Ac y mae 5' dadl- euon ydynt wedi eu gosod o flaen y byd o blaid hyn yn gedyrn ac anatebadwy. Ond y mae y llwybr y mae yr awdwr sydd a'i enw uwchben yr ysgrif hon wedi ei gymeryd, i brofi dwyfoldeb Iesu Grist, yn newydd, yu hapus, ac argyhoeddiadol. Y mae yn ddoeth, weithiau, meddai, i gymeryd, nid y tir uchaf sydd yn bosibl, dan eich traed, ond yr isaf: ac os gellir cael digon o brofion oddiar y sefyllfan iselaf, i argyhoeddi ac eniil meddwl y gwrthwynebydd, goreu oll. Heb hawlio dim ond dyn- Miîdi, 1856. 7