Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EMYNWYE, CYMItEIG. 475 Ond pa fodd yr enilìodd Aristotle y. fath ddylanwad? iSi Resymeg oedd ystordŷ cyflawn o arfau i'r ysgolorion i ddwyn eu dadleuon cywrain a phybyr yn mlaen ; ac yn ei athroniaeth, yr oedd yr Eglwys Babaidd yn cael colofn gadarn i gynal athrawiaeth wrthun y Traws-sylweddiad (Transubstantiation). Ỳn ol athroniaeth yr athronydd hwn, y raae defnydd yn gynwysedig o dair eifen—mater neu sylwedd, ffurf (form), ac amddifadiad (prication). Na feied y darllenydd ni os nad ydyw yn deall yr elfenau uchod ; y mae yn alluadwy eu bod mor ddealladwy iddo ef ag oeddynt i Aristotle ei hun. Golygai fod yn ddichonadwy i ddef- nydd gyfnewid ei sylwedd, a chadw ei ffurf, a chyfnewid ei íFurf, ac eto fod y sylwedd yn aros ; neu, mewn geiriau ereill, y gallai y sylwedd gael ei gyfnewid, a gadael ei briodoliaethau ar ol, ac y gallasai y pri- odoliaethau gyfnewid, er fod y sylwedd yn aros. Y mae cymhwysiad yr athroniaeth wrthun hon yn eglur at athrawiaeth wrthun y Traws- sylweddiad. Yn ol jTr athroniaeth hon, y mae yn alluadwy i sylwedd y bara yn y cymun i gael ei gyfnewid, er fod holl briodoliaethau y bara yn aros. Heblaw dylanwad Aristotle, gellir nodi dylanwad Eglwys Rhufain. Yrn mhob oes, y mae hon wedi bod fel diffoddydd (extinguisher) i'r meddwl dynol ; gwrthwynebai, erlidiai, a llethai hyd eithaf ei gallu bob ymdrech i ddwyn yn mlaen ddiwygiadau mewn athroniaeth, yn gystal a Duwinyddiaeth. Ond nid yw yr achosion y cyfeiriwyd atynt yn ddigon i gyfrif am wendid a llesgedd y meddwl dynol yn y cyfnod hwn. Yr oedd cyd- gyfarfyddiad o lawer o achosion yn cydweithredu tuag at rwystro ym- ddadblygiad y meddwl. Wedi gwneuthur yr ymchwiliad manylaf i achosion, a'u trychwalu i'r eithaf, ceir fod rhyw ddylanwadau nerthol yn gweithredu, y rhai nis gellir eu dysgrifio na'u canfod. [Schoolmeíi.—Deillia y gair hwn oddiwrth y Schools, neu yr Ysgolion a sefydlwyd yn y Canol Oesoedd, er dysgu Rhesymeg a Duwinyddiaeth arddansoddol. Dynodid y rhai hyn gan eu dadleuon a'u gwag-gywrein- rwydd. Hollti y blewyn yn naw rhan oedd eu gorchwyl hoffus. Gwna y gair Cymraeg Ysgolwyr gyfìeu ystyr y Schoohnen braidd yn fwy dealladwy i'r Cymry nag ef ei hun. Mathematìcs a gynwysant gelfydd- ydau rhif a mesur, neu Rhifwyddor a Maintoniaeth.] YR EMYNWYR CYMREIG. 1. Difyrwch i'r Pererinion o Fawl ir Oen ; neu Gasgliad o Hymnau ar amryw ystyriacthau a thestynau attan o'r Ysgrythyr Lán. Gan Dafydd Jones o Gayo. Caerfyrddin: argraffwyd dros yr Awdwr, gan Èvan Powett, yn Heoly Prior, 1763. 2. Difyrwch i'r Pererinion o Fawl i'r Oen. Yr ail ran. Gan t Dafydd Jones o Lanwrda, gynt 0 Gayo. Argraffwyd yn Llanym- ddyfri, gan Rys Thomas, 1764.