Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ADOLYGYDD. CALFIN A'I AMSERAU. Mae pob amgylchiad a chyfnewidiad sydd yn cymeryd lle yn y byd hwn, yn bwysig a theilwng o sylw ei drigolion, fel y maent oll, o dan lywodraeth ddoeth Rhagluniaeth, wedi eu hamcanu er eu haddysg. Ond y mae yn eglur fod rhai amgylchiadau sydd yn cymeryd lle, yn llawer pwysicach ac yn deilyngach o sylw dynion na'u gilydd. Medd- ylir mai yn ol graddau y mawredd, a ehyffredinolrwydd y daioni a ddeillia i ddynolryw, ëangder a pharhad canlyniadau daionus unrhyw amgylchiad, a'r tuedd a fydd ynddo i ddwyn anrhydedd, ac i eglurhau mawredd y Llywydd, y bydd ei deilyngdod. Ar yr ystyriaethau hyn, gallwn ddywedyd yn ddibetrusder, na fu un amgylchiad mor bwysig ac mor deilwng o sylw meibion dynion, er dyddiau yr apostolion hyd y dydd hwn, a'r Diwygiad Gwrthdystiol a gymerodd le ar Gyfandir Ewrop yn yr unfed ganrif ar bymtheg ; canys yr oedd hwn yn dòriad ar yr iau fwyaf gorthrymus ag oedd yn estynedig ar yddfau y bobl yn gyffredin, yn dòriad gwawr o oleuni dysglaer ar y byd oedd wedi ei ordôi â'r tywyllwch mwyaf dudew, ac yn ddynesiad o'r daioni mwyaf i ddynolryw ; ac y mae wedi parhau yn ei ganlyniadau daionus hyd heddyw, er cymaint y mae dynion drygionus wedi geisio ei wyrdroi i ddrygioni, ac i wasanaethu eu huchel a'u hunan-gais hwy. Gellir dywedyd fod Uaw yr Arglwydd yn amlwg yn ei holl gysyllt- iadau, a phob cangen o hono ; ond nid yn fwy felly mewn dim nag yn y cymhwysderau y cynysgaethwyd yr offerynau, drwy y rhai y dygwyd y Diwygiad hwnw oddiamgylch. Mae yn hen ddadl yn mhlith dynion, pa un ai yr amgylchiadau a effeithir sydd yn gwneuthur yr offerynau yn fawr, neu ynte yr offerynau sydd yn gwneuthur yr amgylchiadau y gweithredant ynddynt yn fawr ac yn bwysig. Ond y mae yn Hedamlwg y gellir yn hawdd ranu y peth o bob tu yn eithaf priodol. Y mae yr Hwn sydd yn gwybod y diwedd o'r dechreuad, yn gwybod am bob am- gylchiad a gymerai le, ac a ddichon gymeryd lle, a phob daioni yn ei feddiant, yn darparu offerynau cymhwys, drwy eu gwisgo â phob nerth a dawn priodol ar gyfer pob amgylchiad, er iddynt wneud neu ddyoddef yr hyn a'u cyferfydd ; ac y mae yr amgylchiadau yn rhoddi cyfleùsderau i'r cymhwysderau hyny i ymddangos, a mawredd y gorchwylion yr eir drwyddynt sydd yn feithrinol i bob dawn a rhinwedd ; canys nid oes un peth sydd yn fwy afiachus, nychlyd, a gwanychlyd i bob rhinwedd a