Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BYWYD A NODWEDD LEWIS REES. 199 gofleidio pobl yr Arglwydd o bob enw, er ei fod yn gwahaniaethu oddi- wrth rai o honynt mewn pethau o bwys. Er ei fod yn Galfiniad golau a phenderfynol, ni phetrusai byth i gydsynio â chais y brodyr Wesley- aidd, pan byddent yn ei wahodd i bregethu ac i ddadleu eu hachosion crefyddol ar eu gwyliau blyneddol. Yr oedd ei ysbryd a'i ymddygiad yn hyn yn deilwng o efelychiad Cristionogion o bob enwad. BYWYD A NODWEDD LEWIS REES. Y mae pob dyn yn byw i effeithio ar ei oes. Dyn mewn cymdeithas, y mae yn gosod argraff arni, yn gystal a'i fod yn derbyn argraff oddiwrthi. Nid ffordd llong drwy y môr, neu lwybr aderyn drwy yr awyr, ydyw ffordd dyn drwy y byd; ond y mae llwybrau ei draed yn amlwg wedi yr êl heibio, a'r camrau roddodd yn cael eu dilyn gan ol-oeswyr iddo. Y mae yn wir fod graddau yn nylanwad dynion ar eu hoes, heblaw fod ansawdd yr argraff a adawant yn wahanol iawn. Y mae llawer mewn cylchoedd pwysig yn farn, yn felldith, ac yn falldod, i'w hoes ; ac er eu claddu, y mae eu siamplau yn fyw i lygru a drygu y byd. Y maent wedi cyfodi cof-arwyddion o'u cymeriadau, fel yr hen gèryg a gyfodwyd ar eu penau gan y Rhufeiniaid, yn nodau y ffordd yr aethant; ac ar y cof-golofnau yma y maent wedi cerfio eu cymeriadau mor ddwfn, fel y darllenir hwy yn eglur gan genedlaethau sydd eto heb eu geni—" Yr Ahab ddrygionus hwnw," " Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu," " Judas Iscariot," ac ereill yn nes atom. Y mae y cy- meriadau dûaf, bryntaf, ac ysgeleraf, yn ymrithio o flaen ein llygaid gyda chrybwyll eu henwau. Ond nid yn unig y mae gwahaniaeth yn nylanwad gwahanol gymeriadau, ond y mae graddau yn nylanwad cy- meriadau rhinweddol, yn ol y pwysau fyddo yn eu nodweddau i ddyfnhau yr argraff, a'r cyfleusderau a roddir iddynt i ddadblygu eu cymeriadau. Y mae pob cymeriad cyhoeddus yn debyg o gael ei deimlo yn ei bwysau priodol ar y byd, er fod anfanteision mawrion yn ffordd un, a manteision neillduol yn ffafr y llall, ac y gall y manteision neu yr anfanteision guddio y gwir gymeriad o'r golwg dros amser ; ond gadawer i'r naill a'r llall gael amser i esbonio eu nodweddau, yn yr hir redfa, drwy alw cymeriad i amlygrwydd. Gwelwyd dynion yn tynu sylw cyffredinol, ac yn creu syndod yn meddyliau y lluaws ; dyferai gwefusau y werin foledd iddynt, ac adseinid y Dywysogaeth gan floeddiadau o gymeradwy- aeth i'w henwau ; ond yn ebrwydd darfyddodd eu trwst, dystawodd eu clodforedd, collasant eu henwogrwydd, a chladdwyd eu henwau tra yr oeddynt yn fyw. Nid oedd eu hargraff yn ddim amgen nag ysgrifen â bys ar y dwfr—yn rhwydd y tòrid y llythyrenau ynddo ; ond erbyn y cyfodid ef o hono, nid oedd un argraff arno. Dilynodd ereill yn mlaen tra yr oedd ganddynt dafodau i lefaru a lleisiau i waeddi; ond pan rwymodd cadwynau angau eu tafodau, ac y crugwyd eu Ueisiau yn oerni y bedd, ebargofiwyd eu henwau, a darfu eu coffadwriaeth o fysg dynion. Nid oedd eu dylanwad ar eu hoes yn ddim amgen nag argraffu ar dywod y traeth tra yr oedd y Uanw allan. Tòrid y Uythyrenau yn eghir a