Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y METHODIST; CYLCHGRAWN MISOL. ANERCHIAD. At ein Darllenwyr,— Gweddus i ni ydyw eich cyfarch yn ein cychwyniad presenol, yr hon ydyw y drydedd waith i ni gychwyn. Y mae liawer o honoch yn hysbys o'r amgylchiadau a'n lluddiodd i'ch cyfar- fod yn ol ein bwriad yn Ionawr; felly ni raid i chwi wrth unrhyw eglurhad arnynt. A thebygol ydyw na byddai esbonio yr achosion o'r oediad hwn yn ddim adeiladaeth i'r rhai nad ydynt hysbys o honynt. Am hyny gadawn yr hyn a fu, gan obeithio nad ellir dywed- yd eto, "Yr hyn a fu, a fydd," Ac yr ydym yn hyderu y bydd y cyfnewidiad yr ydym wedi ei wneuthur yn maint a gwedd ein Cylchgrawn, yn peri na bydd neb o honoch yn drist o herwydd yr oediad. Nid ydym yn meddwl dywedyd ne- mawr am ein cymhwysderat y gwaith, nac ychwaith am yr hyn a fwriadwn ei wneuthur, rhag i ni ddwyn geiriau y gŵr doeth ifeddwlrhai ohonoch, "Can- moled arall dydi, ac nid dy enau dy hun ;" a rhag i ryw rai mewn amser dy- fodol adgofio i ni ddammeg y gŵr a ddechreuodd adeiladu, acnid oedd gan- ddo fodd i orphen. Gadawn i chwi farnu ein cymhwysder i'n lle oddiwrth ein gweithredoedd, a chasglu beth oedd ein bwriadau oddiwrth yr hyn awnawn; ; ac os nad ellirgwneuthur hyny, digon o | brawf a fydd ein bod yn llafurio heb I amcan, fel rhai yn curo yr awyr, neu I ein bod wedi methu mor llwyr yn | nghyrhaeddiad yr aracan, fel nad oes neb yn canfod beth ydoedd. Os felly y bydd, profir ni yn annghymhwys i'n lle, ac ni bydd genym neb i'w beio ond ni ein hunain, os trowch oll oddiwrth- ym, i ddüyn rhywraimwy cymwys i'w gwaith, ac felly yn fwy teilwng o'ch hymddiried. Ond goddefer i ni yn ycychwyn ddy- wedyd gair am enw ein Cylchgrawn, o herwydd yr ydym yn deall fod ychydig ragfarn yn ei erbyn; ac yr ydym yn tybied fod hyny yn bod am nad ydys wedi chwilio i'w ystyr. Y mae y bardd wedi gofyn er's talm, " What is in a name?" ond yr ydym yn canfod yn fynych fod llawer mewn enw, a bod mwy yn barnu dynion a phethau wrth yr enwau fydd arnynt nac sydd wrth eu gwir deilyng- dod. Anfynych y mae enw yn awr yn ddysgrifiad o'r hyn a enwir; yn y de- chreuad, hyny ydoedd. Y pryd hwnw gellid dywedyd am bawb a phob peth fel am Nabal, " Fel y mae ei enw, felly y mae yntau?" Ond ynawr y mae mor angenrheidiol holi i'r cymeriad, er gwybod yr enw, a deall ei ystyr, a phe na buasai yr enw yn adnabyddus; oblegid ceir yn fynych enw goleu ar gorff tywyll, ac enw gwladgarwr arfradwr ei wlad. Pe rhoddem frâs ddarluniad o'i hyn a allem ei wneuthur, heb fyned y tu allan i derfynau yr enw, caffai ein darllenwyr fantais i benderfynu am y "Methodist" aifel y maeeienw, felly y mae yntau. Y mae y gair "Methodist" wedi ei