Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y METHODIST. 85 blaid yr achos hwn, sef, y bydd dych- weliad yr Iuddewon yn ennill i ni y cen- hedloedd, ac yn cael eiddilyn â llwydd- iantmawrac annghyffredinolar deyrnas y Cyfryngwr dros y byd. Mewn can- lyniad i'w himpiad hwy i mewn "yn eu holewydden eu hun " y daw 4< cyf- lawnder y cenhedloedd i mewn." " O herwydd paham os ydyw eu cwymp hwy yn olud i'r byd, a'u lleihad hwy yn olud i'r cenhedloedd, pa faint mwy y bydd eu cyfiawnder hwy?" "Canys os yw eu gwrthodiad hwy yn gymod i'r byd, beth fydd eu derbyniad hwy ond bywyd o feirw?" Y mae argoelion cryf yn ymddangos y dyddiau hyn fod yr adeg i gyflawni yr amcanion mawr yna wedi nesâu. Y mae yn dra thebyg y gellir dywedyd yn awr, fod " yr amser i drugarhau wrth Seion, ì'e, yr amser nodedig wedi dyfod:" oblegidy mae "gweisiou Duw" yn y dyddiau hyn fel mewn modd adnewyddol yn dechreu "hoffi ei meini a thosturio wrth ei llwch hi." Y mae yr achos Iuddewig yn tynu sylw, ac yn tynu allan weddiau ac ymdrech- iadau Cristionogion, mewn modd nod- edig ar ei ran. Ac y mae rhyw ysbryd Thyfedd o ymofyniad wediei ddeffro yn eu plith hwythau eu hunain hefyd. Y mae cadwyni eu hannghrediniaeth fel yn llacio. Y mae lluaws o honynt yn ymwrthod â thraddodiadau ffol y Tal- mud, ac yn chwilio yn ddyfal yn yr Hen Destament er profi claims lesu o Nazareth fel y Messia addawedig. Wel, er hyrwyddo cyfiawniad yr amcanion mawr hyn tuag at genedl Israel y mae y Gymdeithas hon wedi ei sefydlu, ac yr ydym ni yn ceisio cymell ei hawliau i'ch sylw heno. Y mae hi wedlgwneyd pethau mawrion eisioes, ac y mae yn ddiau y gwna hi bethau mawrion eto. Cynorthwywn hi gan hyny yn ein cyfraniadau, ac'yn ein gwe- ddiau hefyd. Anwyl Frodyr—"gwir ewyllys ein calon," eiu hymdrechiadau mwyaf egniol, ein cyfraniadau mwyaf haelionus, ac i goroni y cwbl, ein gwe- ddiau mwyaf taer ar Dduw fyddo " dros yr Israel, er iachawdwriaeth." A medd- yliwn, nid yn unig am weddio yn yr achos, ond am gyfranu tuag ato hefyd. Y mae yn dra thebyg nad oes yma neb mor dylawd fel nas gall gyfranu rhyw beth tuag at yr achos hwn. Ac os oes yma ryw un felly, na fydded i hwnw ddigaloni: fe gaiíf hwnw "ddymuno heddwchJerusalem,"acymae"llwydd- iant" yn cael ei gysylltu â hyd yn nod ei hoffi hi. Ac nid oes yma neb nas gall wneyd hyn o leiaf. Gan hyny, pob un sydd yma yn " cofio yr Ar- glwydd, na ddistewch, ac na adewch ddistawrwydd iddo, hyd oni osodo Jerusalem yn foliant ar y ddaear." G. P. Y DIWEDDAR BARCH. JOHN HÜGHES, 1 PONTROBERT. Er nad oes ond wyth mis o'r flwyddyn wedi myned heibio, y mae y gwersyll Methodistaidd wedi ei galw unwaith ac eilwaith i gymeryd i fyny alarnad y pro- ffwyd, " Udwch, canyscwympodd ycedr- wydd," Doe megys y cwympodd Lewis Jones yn nghanol-ddydd ei oes i'r bedd. Heddyw y mae y patriarch John Hughes, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau, yn cael ei gasglu at ei bobl Ac y mae am- ryw weithwyr ereill, er nad oeddynt mewn lleoedd mor amlwg ar y maes a'r ddau hyn, wedi syrthio yn ystod y flwyddyn; megys y Parchn. Robert Evans, Talybont; ac Evan Jones, Ceinewydd. Y mae sym- udiad gweithwyr yn wir golled i'reglwys, oblegid er bod ei swyddogion hi yn Uuosog, y mae ei gweithwyr eto yn anaml: ac yn symudiad John Hughes, collodd un o'i gweithwyr ffyddlonaf—un a roddodd ar- graffrhyddofn ar ei oes i oddefiddi hi annghofio ei enw yn fuan. Cyrhaeddodd Jobn Hughes en^vogrwydd mawr mewn oes yn yr hon ŷr oedd enwogrwydd yn brawf o ragoriaeth: yr oedd cawri ar y ddaear yn mhlith y Methodistiaid yn moreu ei oes ef, ond yr oedd ef yn ddigon mawr i gael ei weled y pryd hyny. A pharha- odd ei barchedigaeth a'i gymeradwyaeth hyd ei fedd. Derbyniasom ychydig ffeithiau o'i han- es oddiwrth gyfaill i ni, pa rai, yn nghyd â'r ychydig yr ydym yn digwydd ei wybod am dano ein hunain, a roddwn yn frysiog gerbron ein darllenwyr. Ganwyd