Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y METHODIST. IONAWR, 1855. UN MIL WYTH GANT A PHEDAIR AR DDEG A DEUGAIN. Nid oes dim yn debyg i brofiad am ddangos pob peth fel y mae. Y mae 6 mi8 o brawf ar olygu cyhoeddiad misol, er nad ydyw hyny ond ychydig, wedi agor ein llygaid ninau i weled llawer peth yn well na chynt; ac wrth gychwyn y flwyddyn newydd, goddefer i ni adolygu y 6 mis sydd wedi myned heibio, yn eu cysylltiad â ni ein hunain yn gyntaf; wedi hyny nid anfuddiol a fyddai i ni fwrw golwg ar y flwyddyn gyfan, i gael gweled beth a wnaeth hi i'r byd. Mewn perthynas i ni ein hunain, y mae genym fwy o achos diolch na chwyno. Y mae ein hymdrechiadau anmherffaith wedi derbyn, ar y cyfan, lawn cymaint o gymeradwyaeth ag y gallasem yn rhesymol ei ddysgwyl. Nid oeddym wrth gychwyn heb ddys- gwyl rhẁystrau; ac ni chawsom ein siomi yn ein dysgwyliadau. Yr oedd enw ein Cylchgrawn yn peri i lawer ag oeddynt yn cymeradwyo ei gynwys, deimlo yn wrthwynebol iddo. Yr oedd yr un peth yn peri i ereill o gydwybod roddi eu hwyneb yn ei erbyn, rhag y gallai niweidio cyhoeddiad awdurdod- edig y Corff, yr oedd ein Cylchgrawn ninau drwy ei enw ám hòni perthynas âg ef. Pan glywsom hyn o amryw leoedd, gwnaeth i ni synu à syndod mawr. Yr oedd y neb oedd yn tybio fod hyn yn bosibl, yn rhoddi cred i ni am lawer iawn mwy o allu nag y V l meiddiwn obeithio sydd yn perthyn i ni, ac hefyd yn meddwl yn rhy wael o lawer am gyhoeddiad y Corff, trwy dybio fod protection yn anhebgorol angenrheidiol tuag at iddo fyw. Y peth goreu i lênyddiaeth, fel i grefydd a masnach, ydyw iddi gael ei gadael i ymdaro drosti ei hun. Byddai ei hateb hithau i bawb a fynai ei noddi, yn gyffelyb i ateb yr athronydd hwnw gynt i'r brenin, pan yn gofyn iddo beth a gai ei wneuthur iddo. Sefyll o'm goleu, meddai,—felly peidio sefýll ar ei ffordd ydyw y cwbl y mae llên- yddiaeth yn ei ofyn. Os bydd dau gyhoeddiad yn deilwng o gael eu dér- byn a'u darllen, y maent mor bell oddiwrth niweidio eu gilydd, fel ag y mae y naill yn hytrach yn gyfnerthiad i'r llall. Am fod yr enw yn achlysuro yr hyn a nodwyd, goddefer i ni ddy- wedyd gair eto am dano, ac am le y cyhoeddiad. Nid nyni a ddewisodd yr enw, ac ni buasem yn eiddewis; ond gan iddo gael ei fabwysiadu gan ereill, nid ydym wedi gweled hyd yma ei bod o werth i ni fyned i'r drafferth i'w newid, eto gall mae felly y bydd ryw dro. Ac am le y cyhoeddiad, nis gall hòni nad ydyw yn perthyn i'r un blaid grefyddol y mae ei enw yn ei gyhuddo; ond nid ydyw yn cael ei gyhoeddi trwy nac anogaeth na chy- meradwyaeth yr un llys eglwysig, ac nid oes neb yn gyfrifol am ei gynwys