Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y METHODIST. MAI, 1855. A WSTIN, O HIP PO. Pen. III.—Yn Mysg y Manicheaid. Yn awr yr ydym i edrych ar Aws- tin dan ddylanwad "ysbryd y cyfeil- iorni;" a gallwn weled fel y mae buchedd gyfeiliornus a barn annghywir yn efleithio y naill ar y Jla.ll- Y mae yn ddiamheu, pe buasai ansawdd calon ac ymddygiadau Awstin yr adeg hon o'i fywyd yn fwy cywir a rheolaidd, na fuasai yn y perygl o gael ei lithio gan gyfundraeth ddyeithr a chymysglyd y Manicheaid. Yr oedd ei feddwl yn llawn gweithgarwch diorphwys; rhed- ai ar ol pob newydd-beth rhyfedd i ymofyn am esmwythdra. Yr oedd ei weithgarwch nid fel llafur cyson a chymedrol y dyn iach, ond fel dirgryn- iadau cynhyrfus dyn yn mhoethder clefyd—anesmwythder afiechyd oedd ei anesmwythder; fel y mae yr afiach yn blysio pob peth, ac am newid pob peth, i'r dyben o gael mwy o esmwythyd, felly yr oedd ei ysbryd yntau; po fwyaf newydd, a dyeithr, a rhyfedd, a fyddai unrhy w gyfundraeth, mwyaf yn y byd o hawddgarwch a welai ynddi i swyno ei feddwl. Y mae yn rhaid fod ei afiechyd moesol yn drwm, a'i anes- mwythyd yn buen fawr, pan y buasai ar ol ei egwyddori yn athrawiaethau CrÌ8tionogaeth, ac "yfed enw yr Iesu gyda llaeth ei fam," yn myned at y Manicheaid i geisio gorphwysdra. Wrth yagrifenu hyn, y mae rhywbeth yn ein cymhell i ofyn, Onid ydyw yn- 17 fydu ar ol pob newydd-beth a all y meddwl berwedig ei ddyfeisio, bid ef gynllun, neu bwuc, neu wybodaeth ne- wydd—bydded ef fesmeriaeth neu rhyw "aeth" arall o wedd mwy crefyddol, yn brawf o ddiffyg y sefydlogrwydd cysan hwnw y mae yr enaid sydd wedi cael gorphwysdra yn nhrefn yr efengyl yn cael ei nodweddu ganddo? Y Manicheaid oeddynt blaid yn dwyn perthynas agos â'r Gwybodydd- ion (Gnostics). Sylfaenwyd hi gan Mani, neu Manichaeus, brodor o Per- sia, oddeutu 277 o. c. Unid ynddi baganiaeth â Christionogaeth; neu yu hytrach, cymysgid hwy â'u gilydd; ac y mae yn rhaid ei fod yn gymysgedd o'r fath fwyaf anghenfilaidd. Eu huno nis galiesid, gan nad oedd o'r blaen ddim cydfod a chyfathrach rhyngddynt â'u gilydd; ond cymysgwyd aur Crist- ionogaeth â phridd paganiaeth, a gwnaed hi yn ddelwolygus anferth, ger yr hon y syrthiodd Awstini'w haddoli. Cyfodid hi i fyny mewu gwrthwynebT iad i Iuddewiaeth ar y naill law, ac i'i eglwys Gatnolig ar y llaw arall. SylT faen athrawiaeth y Manicheaid oedd hen grefydd Zoroaster, yn yr hon yr oedd rhai gwirioneddau, fel yn mhob gau grefydd arali, yn nghanol llawer mwy o syniadau cyfeiliornus, fel ychydig rqnynau o aur yn nghudd mewn llaid. Credent yn yr athraw?