Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y LLUSERN. 163 nac arf miniog yn nwylaw ynfytyn. Ond o'r ochr arall, nid ydyw y neb ag sydd wediymwerthu yn gaethwas i newyddiadur, ond un radd ynuwch na'r hwn sydd yn ei wadu yn hollol. Dylai eiu pobl ieuainc hefyd fod ar eu gocheliad rhag cyfran helaeth o'r hyn a elwir y dyddiau hyu yn light reading. Y mae llawer o hono yn light mewu gwirionedd, yn ys^afnach felly na gwegi a pbar orthrymder i'r neb a'i darlleno. Nid oes dim a'i duedd yn fwy i barlysu dynoliaeth ein pobl ieuainc na'r math hwn o lenyddiaeth. Gwelir ar hyd ac ar led y llyfrwerthfeydd, mewn diwyg a lliwiau coegwych, lyfrau y dylid ym^adw rhagdiynt, llyfrau a'u tuedd uniongyrchol i gyuhyrfu y nwydau heb awchlymu y deall, yn boddhau ond heb adeiladu. Dyma y math o lenyddiaeth ag sydd yn llygru chwaeth ein pobl ieuainc, yn enyn ynddynt ddyhead diwall am y newydd yn hytrach na'r da, yn agoryd y llygaid i ganfod drygioni yn mhob ffurf arnoj heb enyn casineb yn y galon tuag ato. Dyma lefain ag sydd yn gweithio mewn dystawrwydd, ac yn suro holl fywyd y dyn. O dan ei ddylanwad palla pob yni a nerth moesol, gan adael y dyn i hanfodi yn unig ar y cynhyrfio1, a phan balla y sensational cwyrapa i ystad o hun-glwyf meddyliol, ac nid yw ei le mwyach aragea na gwagnod mewn cymdejthas. Wrth ddechreu eiu hysgrif yr amcan penaf oedd genym mewn golwg ydoedd galw sylw ein darllenwyr at faesydd llafur yr Undeb Ysgolion fel gwaith arbenig y tymnor gauaf. Dyma'r maes wedi ei dori allan, a manteision âmrywiol yn cael eu cynyg tuagat ein cynorthwyo i gyflawni y gwaith. Wele yn ein cyrhaedd y Gwerslyfrau, cylchgronau yr Ysgol Sabbothol, yn nghyd a'r esboniadau sydd wedi eu cyhoeddi yn arbenig i'r amcan. Nid oes ond odid gymydogaeth lle na chynhelir cyfarfodydd i'r plant, y bobl ieuainc, ynghyd a phob oedran o dan arweiniad personau eymhwys i egluro ac hyfforddi yn y maesydd llafur. Y Beibl ydyw llyfr y llyfrau. Dyma yr Haul, ac nid ydyw goíeuni llyfrau eraill ar y goreu yn amgen na goleuni benthyciol, Dyina y llyfr ag ?ydd yn hawiio y lle blaenaf, ac amcan yr holl drefniadau a'r darpariaethau ydyw sicrhau i'r nifer luosocaf y wybodaeth helaethaf a mwyaí trwyadl a ellir o hono. Os ymgymerir a'r gwaith, a'i wneyd yn onest a chydwybodol, bydd y gauaf yn gyfnod o fwynhad ao o adeiladaeth anmhrisiadwy, a phar i'r cyfryw groestwu oriau raeithiou hir-nos gauaf fel augelion Duw. Ymaüer yn y gwaith yn ddiydmroi, a chyda phenderfyniad, cysondeb, a dyfal barhad, bydd y llwyddiant yn mhell y tu hwnt i bob gobaith a disgwyliad. ______________________________________ RICHARD THOMAS, PREGETHWR CYNTAF MON. ^N ddiweddar, daethcm o hyd i lythyr o eiddo Eichard Thomas, pregethwr cyntaf y Methodistiaid yn Mon, at Howell Harries; ac y mae o hynafiaeth a dyddordeb mawr. Mae yn werthfawr ynddo ei hun, ar wahan oddiwrth ei holl gysylltiadau hanesyddol; ond y mae yn f wy gwerthfawr fyth yn y goleuni y mae yn dafiu ar gymeriad a hanes pregethwr cyntaf Mon ; ac yn enwedig ar banes dechreuad Methodistiaeth yn Mon. Ceisiwn brofi hyn ar ddiwedd ein hysgrif. Yn awr ni a giiiwn o r neilldu er mwyn i'r darllenydd gael mwynhau y wledd sydd yn y llythyr rhagorol hwn :— Gorph. 2Lain, 1746, Yscd. Llanfeigan. Richard Thomas, at y ffyddlon frawd yn Nghrist, Howell Harries. Anwyl garedsgol frawd,—'Rwyf yn gobeithio y bydd i'r ychydig eiriauhyn eich cyfarfod yn yr Arglwydd gyda bendith. 'Rwyf fi fel y'm gwelsoch, yn gystuddiol o ran y corpit, a hyny gyda bendith ryfeddol i m benaid, trwy Grist. Mi allaf ddyweyd fy mod yn gweled pob ergyd yn llawn o gariad fy Nhad Nefol. Fy anwyl frawd, mae yn gysur i'm henaid feddwl am angeu, barn, a thragwyddoldeb. 'Ewyf yn gweld angeu fel drws bach i hedeg drwyido i ryddid cyflawn a thragwyddol o lawenydd. 'Rwyf yn awr yn gweled y nef yn agored ; ond angeu sydd fel ail ddrws i'm gollwng i mewn i'ni tre dragwyddol. 'Rwyf yn awr ynclywed megissŵn telynonoo ysbry .ol yn canu fry ; oni mae angeuyngenad i'm gollwng inau yn rhyud i fyned i'w plith i ganu yn ddibaid byth. Drwy ffydd 'rwyf yn gweled fy nghoron yn nheyrnas fy Nhad, a'm Brawd