Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y LLUSERN: CYLCIIGRAWN MISOL. Sdd Rhif 22. HYDREF, 1894. Oyv. Ií. NODIADAU CYFFREDINOL. Í>EWN cyhoeddiad Seisnig o'r enw Young Woman, y mae Mrs. £ Wynford Philipps wedi bod yn rhoddi cyfarwyddiadau yn k ddiweddar i ferched ieuainc am y modd i ddyfod yn siaradwyr cyhoeddus. Dywed ei bod o'r diwedd wedi cael ei hargyhoeddi yn drwyadl am y priodoldeb i ferched gymeryd eu safle ar y llwyfan fel siaradwyr. Bu hi, fel y mae llawer eto, o'r farn nad oedd merched wedi eu bwriadu i gyfarch cynulleidfaoedd ar gwestiynau y dydd. Mae yn debyg iddi newid ei barn ar y mater trwy y profiad a gafodd hi ei hun yn y gwaith o areithio. Derbyniodd fanteision nad yw yn debyg y bydd i ond ychydig eu cael ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac fe wnaeth y defnydd goreu o'r manteision hyny. Mae hi heddyw yn sefyll yn y rhestr uehaf o siaradwyr ar bynciau gwleidyddol. Fel un sydd wedi bod yn dra llwyddianus, y mae awdurdod yn y geiriau a ddywedir ganddi wrth eraill sydd yn cychwyn yn yr un cyfèiriad a hi. Y mae ei chynghor- ion yn gyfaddas, nid yn unig i ferched, oed hefyd i feibion sydd yn bwriadu rhagori yn y gelfyddyd o siarad yn gyhoeddus. # * #- * Rhwystr mawr ar ffordd rhai ieuainc i lefaru yn gyhoeddus yw diffyg hunan feddiant. Wedi colli eu hunain, y maent yn colli eu haraeth. Bu raid i lawer areithydd dibrofiad eistedd i lawr heb ddy weyd gair ar ol codi i fyny gyda'r bwriad o lefaru. Yn un o'i lythyrau at ei chwaer, dywedai Macaulay fod aelod ieuanc o Dy y Oyffredin wedi dyweyd wrtho y byddai ei wddf a'i wefusau pan yn codi i fynu i siarad yn y Ty mor sych ag eiddo dyn yn myned i gael ei ddienyddio. Nid oes gan ddyn a thalcen pres gando syniad pa fodd y teimla un heb dalcen felly pan yn edrych yn wyneb cynulleidfa am y tro cyntaf gyda'r bwriad o'i ehyfarch. Yr hyn fydd yn gwneyd y sefyllfa yn fwy anhyfryd fyth, yw yr ymwybyddiaeth fydd gan y siaradwr fod y gynulleidfa yn deall« fod arno ei hofn. Rhyfedd mor fuan y gwel pobl trwy y dyn fydd ya sefyll o'i blaen. Pan y deallant fod eu hofn yn dwyn magl iddo, y mae eu sylw yn cael ei dynu oddiwrth y pwnc at y siaradwr. Bydd rhai yn anesmwyth. rhag ofn iddo dori i lawr. Gwylia eraül ei ysgog- iadau gyda chywreinrwydd er mwyn gweled pa un ai yr ofn ai y dyn a orchfyga. Ni fydd neb yn talu nemawr sylw i'r mater y ceisia y siaradwr draethu arno. I bob pwrpas ymarferol, y mae yr^ amser yn eael ei dreulio yn ofer. I osgoi y teimlad anghysurus y cyfeiriwyd ato, y mae y rhan fwyaf o rai dibrofiad yn darllen papyrau yn lle llefaru yn ddigyfrwng wrth y bobl. Ond nid jw hyny ond meddyginiaeth wael