Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ARWEINYDD. Rhif. 72.] RHAGFYR, 1881. [Cyf. VI. DELW DYN AR EI WAITH. Gŵyr pawb fod gwahaniaeth mawr rliwng ysgrifenwyr, fel rhwng darllenwyr, â'u gilydd. A dyna un gwahan- iaeth: wrth ddarllen gwaith rhai, yr ydych yn teinilo nad ydyut wedi darllen na meddwl dim i bwrpas ar y mater a drinir ganddynt. Wrth ddarllen gwaith dos- barth arnll, gwelir ôl rhyw gymaint o ddarllen a meddwl wrth, neu ar gyfer, ysgrifenu. Ond y mae ereill ag yr ydym yn teimlo wrth ddarllen eu gwaith, eu bod wedi darllen a meddwl cyn ysgrifenu, ac yn annibynol ar hyny. Y mae un dosbarth fel siopwyr ar fìn tòri, heb ganddynt ddim bron yn eu siop o'u heiddo eu hunain na neb arall. Y mae dosbarth arall fel siopwyr bychain, newydd fod yn prynu ychydig nwyddau i'w hail-werthu. Ond y mae y llall fel y masnachwr mawr, yn agor hen ystorfa gyfoethog. Y mae y naill yn ysgrifenu am eu bod wedi meddwl; a'r lleill yn ceisio meddwl am fod yn rhaid iddynt ysgrifenu. Teimlir Uas neillduol ar y meddyliau goreu—blas addfedrwydd. Ceir cynyrch blynyddoedd o astudiaeth mewn tudalen. Rhoddir weithiau ffrwyth blynyddoedd o ddarllen a meddwl mewn brawddeg. Y mae meddyl- jwr fel hyn ar hyd ei oes yn trysori iddo ei hun wir-