Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYLIEDYDD. Llyfr IX.] CHWEFROR, 1832. [Rhif. 106. BYWGRAPHIAD Y diweddar Barch. Edward Davies, o Olveston, yn Swydd Gaerloyw. Odid bod un o ganghenau Uëenyddiaeth wedi cael ei hesgeuluso yn fwy gan ein cenedl ni, y Cymry, na Bywgraphydd- Iaeth; a hyny a'n difuddiodd yn ddirfawr o'n cyfiawn ymíi'rost o barth enwogion gwiwbarch a hanasant o ddiledry w wehel- Jth Frythonaidd. Y rhai, pe cadwesid Uyledus goffa o honynt, a fuasent gynnifer o dystion diwrthbrawf o athrylithfawr gynneddfau y genedl, nid gorîs odid o genedloedd Ewropa. Llawer o naddynt \vrth gael trwy dreigl tyngedfenawl eu har- wain o'u cyssefin fröydd, a myned i weini helyntion bywyd i barthau pellenig, ac i blith cenedloedd alltudryw, ac yno ym- frodori ac ymgyfathrachu, nes cael eu hòni gan y cyfryw drigolion fel eu treftad gynnwynawl; a myned felly yn ddifudd- iawg ddihysbys i'w cenedl eu hunain. Nid cwbl anhyfel i'r darluniad yma a fu treigl gwrthddrych y cofiant canlynawl; yr hwn, er maint ei wasanaeth a'i edmyg- edd i'w gywladyddion, nis gŵyr y filran o honynt griglyn yn y byd am ei fodolaeth öa'i fawrgamp yn yr hyn oll a orug efe, dros ei genedl a'i Ilëenyddiaeth, er hoedli o hono hyd o fewn yr ychydig fisoedd diw- eddaraf. Y Parch. Edward Davies a enid ar y 7fed o Fehefin, 1756, mewn tyddyndŷ a elwir Hendre' Einion, y'mhlwyf Llanfar- edd, yn Swydd Faesyfed. Efe ydoedd fab hynaf Edward Davies, o'i wraig Eli- Zabeth, ferch Richard Owens o'r Tŷ'n-y- Uidiard, yn y plwyf cyfnesaf, Llan St. Ffraid. Amaethwr oedd ei dad yn trîn y tyddyn crybwylledig, o dreftad ei frawd hynaf, Richard Davies. Ei hynaíìaid oedd- ynt uchelwŷr a chyfrifolion yr ardal, Ue y trigasent erys amryw ganrifoedd. Ac yn amser genedigaeth gwrthddrych ein cofiant, yr oedd amry w ganghenau o'i wely- gordd yn feddiannwýr nid Uai nag ugain o dyddynod yn y gymmydogaeth. CHWEFROR, 1832. Derbyniai ei lëen-addysg cyntaf gan ei fam, yr hon a'i hyfí'orddiai i ddarllen; er ar y cychwyniad nad oedd ganddofymryn o hoffder mewn llyfrau; yr hyn oedd beth hynod mewn un a dröai allan mor nodedig ddiflin ei awydd i ddysgeidiaeth a gwyb- odaeth. Pan ydoedd tua chwech oed, dygwyddai iddo ddamchwaen anfl'odiawg, yr hon a fu agos i'w ddifuddiaw o'i olwg, ac a fu yn achlysur o anafiad o herwydd yr hon y dyoddefodd anfantais dros ysdod ei oes, ac a droes cyn ei ddiwedd yn olygball hollol iddo. Mewn asbri i geisio tanio gẁn a ddodasid i warchadw perllan ei dad, dyrchodd y pylor o'r badellig i'w lygaid, yr hyn a'i niweidiai gymmaint fel y bu ry w ysbaid cyn cael adferiad o'i olwg. Ac i chwanegu antì'awd ei olwg, fe'i niw- eidid yn ddirfawr eilchwyl drwy effeith- iau y frêch gôch, yr hon a gaffai pan oedd tua deg oed, tra yr ydoedd dan addysg Mr. Thomas Bowen o'r Bwlch, Llan St. Ffraid, gyd â'r hwn y dysgai ysgrifìaeth, rhifyddiaeth, a Gramadeg Saesoneg. Yn ddeuddeg oed, aeth i ysgol y Parch. Evan Meredydd, Curad y plwyf, lle y de- chreuai ddysgu Lladin, nes cyrhaedd mor belled a Chwedlau Phoedrus. Eithr oddi- ar iddo lithro i'r fath oed tra yr ydoedd mor ol-llaw mewn dysg, bu yn achlysur anfantais a gofid iddo tra y bü byw yn y byd. Etto, y pryd hyn efe a ddechreuai gael blâs ar lyfrau, a chynnyddu cymmaint mewn gwybodaeth, fel y tueddid ei r'ieni i'w ddarparu i urddau cysegredig. Eithr rhwystrus fu ei gynnydd trwy fynych new- idiad ei athrawon. Oddiwrth Mr. Mered- ydd aeth at y Parch. Rhýs Marc o'r Bwlch, ac oddi yno at y Parch. Evan Williams o'r Crûg-cadarn, gyda yr hwn y cyrhaeddodd mor belled a Virsil a'r Testament Gryw. Er ei eni yn Nghymru, etto dygwydd- odd hyny fod yn y parth hwnw o'r Dy-