Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYLIEDYDD. Llyfr IX.] EÌÎRILL, 1832. [Rhif. 108. COFIANT V PARCH. CHRISTIAN FREDERIC SCHWARTZ. Iah'N yr ystyrid y gwr hynod hwn fel Apostol Cristionogol'y dwyrain yn yr am- seroedd diwcddaf hyn. Cyrhaeddodd Madras, yn 24 oed, ar yr 17eg o Orphenaf, 1750, i bregethu y'mhlith cenhedloedd yr India anchwiliadwy olud Crist; a phar- haodd yn y gwaith cyssegredig hwn gyda chywirdeb diargyhoedd, gyda zel ddifíin, a llwyddiant helaeth, hyd y 13eg o Chwef- ror, 1798, pryd y gorphenodd ei yrfa yn fuddugoliaethus, wedi treulio yn agos i hanner cant o flynyddoedd y'ngwasanaeth «i Feistr yn yr India. Perchid ef gan Gristionogion, Paganiaid, a Mahometan- iaid; a gadawodd esiampl dda i bawb a'i canlynodd, a'i canlyn etto, trwy gyhoeddi newyddion da iachawdwriaeth i'r byd dwyreiniol. Christiun Frederic Schwartz a anwyd yn yr Almaen, yn y flwyddyn 1726. Yflrwymodd i fod yn Oenhadwr yn yr India dan nawdd y Coleg Cenhadol yn Demnark. Gwedi llafurio rhai blyn- yddau yn Tranquebar, cyfarwyddwyd ef gan y Coleg i ymsefydlu yn Tritchinapoly, dan y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol. Yr oedd amryw Sefydliad- au Cenhadol Protestanaidd gan y Gym- deithas yn y parthau hyny o'r wlad; ac »r y Sefydliad newydd hwn yn Tritchi- napoly gosodwyd Mr. Schwartz yn Arol- ygwr. Buan y daeth ei lafur yno mor helaeth fel ag y gorfu arno osod wyth neu Uaw o frodorion y wlad a ddychwelwyd at Gristionogaeth yn Gateciswyr. Urdd- Wyd un o honjnt wedi hyny, o'r enw Sattianden, i waith y weinidogaeth, ym tnha un y llafuriai gyda mawr hyawdledd a Hwyddiant. Ar y 14eg o lonawr, 1786, cafodd Mr. Schwartz brawf o ofal neill- duol ei Dad nefol am dano. Ar y dydd hwnw y chwythwyd ystordy powdr yr atnddiffynfa i fynu, pryd yr archollwyd ac y lladdwyd Hawer o Ewropiaid a brodor- ion. Drylliwyd fTenestri ei dŷ ef, a daeth EBRILL, 1832. amryw bèlenau i'w ystafell, ond ni chaf- odd efe un niweid personol. Yn y flwydd- yn 1772, ymwelodd á Tanjore amryw weithiau, gan obeitluo y gwelai Duw fod yn dda, trwy fynych bregethiad o'r gair yn y ddinas boblog hòno, wneud rhy argraph ar y trigolion. Cymmerodd gyd âg ef dri o'i Gateciswyr, y rhai a aent o atngylch y bobl fore a hwyr, gan osod o'u blaen wirioneddau gogoneddus yr efengyl, a'u hannog i ìtfudd-dod ffydd. Dy wedir iddynt gyfarfod à mwy o wrthwynebiad- au oddiwrth y Pabyddion nag oddiwrth y Brahminiaid ac eilun-addolwyr. Dang- osent eu gelyniaeth trwy annog y werin i gyfodi terfysg. Unwaith, pan ÿmddang- osodd trigolion un dref yn awyddus am gael eu dysgu (ac yr oedd golwg obeith- lawn am*gynhauaf toreithiog) yn absen- noldeb Mr. Schwartz, bygythiodd yr Off- eiriad Pabaidd na wnai fedyddio, priodi, na chladdu neb o'i gynnulleidfa, nes idd- ynt fyned mewn cyngrair â'u giiydd i yrru ymaith y Cenhadwr Protestanaidd a'i Gateciswyr. O ganlyniad cawsant y fath driniaeth arw, nes gorfu arnynt ymadael á'r lle. Ymddiddanai y gwr enwog hwn yn rhydd â Phaganiaid o bob gradd. Lliaws a'i gwrandawai yn eglurhau Crist- ionogrwydd gyda gradd o hyfrydwch; ac nid anfynych yr atebent, " Gwir! pa les- had a wna ein delwau a'n seremon'iau ll'i- osog? Nid oes ond un Penaeth, sef Gwneuthurwr a Chynnaliwr pob peth." Ond nid aethai eu hargyhoeddiad, yn rhy gyfí'redin, ddim pellach. " Yn un o'm teithiau," medd Mr. Schwartz, " cyrhaeddais le helaeth, lle y cadwai y Paganiaid wledd. SynaiS wrth y dyrfa fawr a welwn o'm blaen, a sefais ryw bellder oddi wrthynt; ond buan y'm hamgylchynwyd gan nifer fawr o bubl, wrth ba rai y treuthais am briodoliaethau gogoneddus Duw, ac y sylwais morafres-