Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYLIEDYDD. Llyfr X.] MAI, 1833. [lÌHLF. 121. PREGETH A DRADDODWYD YN EGLWYS D-----, AR BRYDNAWN SUL Y PASC, EBRILL 23, 1832. 1 Coil. xv. 35. " Eithr fe a ddywed rbyw nn, Pa fodd y cyfodir y nn.'irw f ac à pha ryw gorph y deuant'!" O'r holl athrawiaethau a ddygodd yr efengyl i oleuni, wrth hysbysu i ni y bywyd a'r anfarwoldeb a bwrcaswyd trwy haedd- »ant aberth Iesu Grist, y mwyaf anneallad- Wy i reswm dynol yw yr athrawiaeth o " adgyfodiad oddiwrth y meirw"—o ad- gyssylltiad corph ac enaid, mewn byd new- ydd a gwell—ym mha un ni fydd nnrhyw glefyd i wanhau, nac un math o angeu ínwyach i ddadgylymu .y gyd-berthynas, yr hon y pryd hyny a wneir etto unwaith. Yr oedd, fe allai, gan Philosophyddion Ithufain a Groeg ry w dyb egwan ynghylch ystâd ar ol llaw, yn yr hon y byddai yr enaid am byth yn ddedwydd, neu yn dru- enus, yn ol haeddiant y bôd y'nhabernacl brau yr hwn y trigodd ar y ddaear. Ond yr oedd y cyflwr dyfodol hwnw, yn ol eu barn hwy, yn cynnwys, nid ail undeb â'r corph, ond gwahaniad cyflawn apharhaus oddiwrth gaethiwed y cnawd, oddiwrth boen, dioddefaint, a nychdod. Hwy a edrychent ar y corph fel inegys carchar a gwaradwydd yr enaid; a thybient mai ei unig obaith i fod yn ddedwydd, oedd yn gorphwys ar ei ryddhâd o'r pydew daearol hw!i. A'r Deistiaid, yn yr amseroedd diweddar, ynghyd â rhai o'r Sosiniaid, a ddychymmygnsaut athrawiaeth debyg i hyn; gan dybied fod yn rhaid diosg yr ysprydol ran o ddyn, i'r diben iddo fod yn ddedwydd am byth. 'Ond y mae athraw- iaeth y grefydd Gristionogol o ddull a nodweddiad gwahanol. Y mae hi yn addaw i ddyn barhad anorphen a pher- ftaith o ddedwyddwch y'nghorph ac enaid : hi a lefara wrth ddisgybl yr efengyl, mai fèl y mae efe yr awrhon y bydd efe ar ol MAI, 1333. llaw, yn gyfansoddcdig o ddefnydd ac y?- pryd; ac y gogoneddir yn y nef gan yr Iachawdwr, y bôd hwnw yr hwn addarfu ar y ddaear fyw yn ITyddlon iddo ef: a'r sawl a anufuddhasant, neu a anghredas- ant ewyllys yr Arglwydd, a gânt eu barnu yn ol fel y pechasant tra yr oeddynt yn y cyflwr hwn o bererindod, a'u condemnio i ing tragywyddol ac anocheladwy yn yr ystâd sefydledig o ad-daledigaeth. Byma addewid yr lesu i'w ganlynwyr. Ac er eglurhau a chadarnhau yr addewid hon, efe ei hun a ddrylliodd rwymau angeu : efe hefyd a ddangosodd ei hun yn fyw, ar ol ei ddioddefaint, i'w amry wiol ddisgybl- ion; ac ar ol deugain niwrnod a esgynodd gyd â'i gorph yn weledig i'r trigfanau nefol: efe a fynegodd iddynt, nid yn unig y byddent hwy lle yr oedd efe ei hun, eithr hefyd y deuent hwy yr un fath ag yntau. Yn awr, hwy a'i gwelsant ef yn esgyn i'r ncfoedd. I'r nefoedd, gan hyny, yr oeddent hwy i gael mynediad i mewn. líwy a'i canfyddent ef yn dwyn yno y corph hwnw, ym mha un y cyd-gerddodd ac yr ymddiddanodd efe à hwynt dros holl amser ei weinidogaeth ar y ddaear: gyd â'r un corph ynte ag yr oeddent hwy yn ymgyfeillachu âg ef, gyd â'r un llygaid ag yr edrychasant arno ef, gyd â'r un clustiau ag y gwrandawsant ar ei gyng- horion, achyd â'r un a'r unrhyw ddwylaw ag y cytryrddasant âg ef, hwynt-hwy eu hunain oeddent i'w ganlyn ef i'r nefolion leoedd, a dyfod yn gyfeillion i angylion, tywysogaethau, ac awdurdodau. Athraw- iaeth ogoneddus oedd hon. A hwy wedi eu llawn argylioeddi yn y gwirionedd o honi, trwy bob rhyw dystiolaeth angen- rheidiol i'w synwyrau, a phob ymddiried rhesymol ar eiriau 'r Iachawdwr, a aeth- antallau, gan bregethu yr Iesu, a'r adgyf-