Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XI.] GORPHENAF, 1834. [Rhif. 136. PREGETH A DRADDODWYD YN EOLWYS LL—DD—L, SWYDD FEIRIONYDD, AR SUL Y DRINDOD. Marc 12. 20. "Clyw, Israel; yr Arglwy<ld ein Duw, un Ar- (twydd yw. Y Pwngc penaf yn ein hymofyniadau Crefyddol yw, chwilio allan pa beth yw öuw. Dyma yr erthygl sylfaenol, ar ba *)n y mae y lleill oll yn orphwysedig. Uhaid i ni wybod ei fod yn hanfodi mewn Tri o Bersonau, cyn y medrwn ei wasan- Hethu a'i garu ef; ac am hyny, gesyd ein ílarglwydd bendigedig, yn dra phriodol, wybodaeth o Dduw o flaen cariad at Dduw. ^íi fedrwn garu yr hyn nis gwyddom ddim ^ra dano. Ni fedr anwybodaeth o Dduw étenhedlu cariad ato ef. Os dychymmyg- 'on tywyll am Dduw fydd yn y deall, nis 'Hchon llawer o wir gariad tu ag ato fod yn ÿ galon; am ba achos y dechreu ein Har- JSlwydd bendigedig yma gyda gwybodaeth «*r gwir Dduw, ac nid yn gosod allan un l>eth newydd ar y pwngc hwn, ond myned ÿ roae at y gyfraith ac at y dystiolaeth. Mae yn crybwyll adnod olyfr Deuterono- 'nium, ym mlia un y darlunir yn amlwg hanfod a phersonau y Duwdod. Dyma Orchymyn i holl Israel Duw, pa un bynag !»i luddewon ai Cenedloedd, i wrando pa heth a ddywed yr Arglwydd Dduw am dano ei hun. " Clyw, Israel:" y mae yn ddyledus i wrando ar y datguddiad hwn o'i ewyllys. Ni oddefodd i ni feddwl yr hyn a ewyllysiom am ei Fawrhydi nefol; eithr efe a ddatguddiodd yr hyn a ddylem Ci gredu am dano, fel y mae yn hanfodi niewn Trindod o Bersonau. Ac yr oedd yn angenrheidiol iddo wneuthur hyn, ohlegid nid oes dim crefydd heb Dduw, na dim gwir grefydd heb y gwir Dduw. I'a fodd y gwyddem ni pa wasanaeth grefyddol i gyQawni, pe nis gwypem am >awn wrthddrych addoliad. Mae yn gwbl GORPHENAF, 1834. angenrheidiol i ni adnabod Duw, gwybod- aeth o ba un a ddatguddir yn y gair, lle y sefydlir ein cred, a rhaid i ni aros wrtho ef. Mae yn dra sicr nad oes iachawdwr- iaeth heb ffydd yn Nuw. Rhaid i'r hwn sy'n dyfod at Dduw gredu ei fod ef, a'i fod yn wobrwywr i'r rhai a'i ceisiant ef. Os nad oes modd bod yn gadwedig heb gredu yn Nuw, yn ganlynol, nid oes modd bod yn cadwedig heb gredu yn y gwir Dduw; oblegid gau Dduw nid yw ddim yn y byd. Rhaid, gan hyny, i ni wybod ani iawn wrthddrych addoliad, cyn y medrwn ei addoli yn iawn. Pa fodd y mae i ni wybod am dano? Hwn yw y peth nesaf yn ein hymofyniad presennol. Pwy a benderfyna y pwngc mawr hwn? Ein Harglwydd bendigedig a ddywed, " Nid edwyn neb y Tad, ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddatguddio iddo." Y byd trwý ddoethineb nid ad- nabu y gwir Dduw. Pa mor ynfyd yw ymffrost yr anffyddwyr, y rhai a ryfygant ddangos pa fath un yw Duw trwy reswin a goleuni natur! Pa beth a wybu Ariaid a Sosiniaid yr oes am dano? a wyddant hwy fwy ain dano na'r Philosophyddion Paganaidd ? Na wyddant. Mae gan- ddynt yn ddiau fwy o gynnorthwyon; ond trwy eu gwrthod, mae eu balchder yn fwy, a'u hanwybodaeth yn fwy amlwg: canys gwrthodasant y Bibl, a dyfeisiasant iddynt eu hunain eilun mor wag ag y darfu un Philosophydd Paganaidd erioed ei addoli. Gwadasant Dduwdod Crist a'r Yspryd Glân, a dychymmygasant idd- ynt eu hunain Dduw yn hanfodi mewn un Person. A'r eilun hwn yw gwrthddrych addoliad Uawer yn ein teyrnas, ond brad- wyr ydynt oll. Diammeu y collir hwy yn dragywydd. Pob gweithred o addoliad B b