Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYLIEDYDD. Llypr XIV.] MAWRTH, 1837. [Rhif. 167. BUCHEDDAU ENWOGION YR EGLWYS. ST. IGNATIUS, ESGOB ANTIOCEL Y mae yn beth hynod o adfywiol i daflu ein golwg yn ol ar y llinell o hanesiaeth Cristionogol, ac ystyried y gweision hyny ì Oduw, y rhat, yn amserau cyntaf yr Eg- lwys, a dystiolaethasant dros ei enw, ac a Wnaethant gyftes dda. Y cyfryw un yd- oedd Ignatius, un o dadau Apostolaidd yr eglwys, yr hwn a anwyd yn Syria, a ddysg- Wyd o dan addysgiad personol yr Apostol a'r Efengylwr St. Ioan, a daeth yn hynod o gydnabyddus à St. Petr a St. Paul. St. loan, yr hwn a dybiai ei fod yn hynod o addas, trwy ei dduwioldeb a'i grefydd, a'i hordeiniodd ef; wedi hyny, ar farwolaeth Euodias, pennodwyd ef i fod yn Esgob An- tioch, oddeutu y flwyddyn 70, gan y ddau apostol a blanasant Cristionogaeth yn y ddinas hòno—y lle y galwyd y disgybl- ion gyntaf yn Gristionogion. Yn y lle hwn o ddyledswydd pwysfawr (canys An- tioch ydoedd brif ddinas Syria, a'r ddinas enwocaf yn y dwyrain) parhaodd am ychwaneg na 40 mlynedd, gan roddi an- rhydedd a nodded i grefydd Crist, nes y daeth yr Ymerawdwr Trajan i Antioch, i wneuthur darpariadau am ryfel yn erbyn cenedl gymmydogaethol. Ar ol dyfod i'r ddinas mewn dull gorfoleddus, er côf am ei fuddugoliaethau diweddar, dechreuodd holi am ansawdd crefydd yno ; ac oblegid iddo gael allan bod Cristionogaeth wedi Uwyddo mor fawr yno, penderfynodd ei herlid hi yno fel ag y gwnaeth mewn parthau ereill o'i ymerodraeth. Ymddengys iddo gael ei dueddu, naill ai gan ddynoldeb neu gyfrwysdra, i fabwys- iadu dull tynerach o ymddygiad at y Crist- ionogion; canys gorchymynodd Pliny i beidio a chospi neb ond yn unig y rhai a ddygid o'i flaen i gael eu barnu. Ignatius, gan nad oedd " arno gywilydd o dystiol- MAWRTH, 1837. aeth ein Harglwydd," ac u heb ei ddy- chrynu mewn dim gan ei wrthwynebwyr," a benderfynodd fyned, o'i ewyllys ei hun, at yr Ymerawdwr, i wneud profles gy- hoeddus o'i ft'ydd, ac o'i benderfyniad i sefyll wrth yr achos, i gynnorthwyo yr hwn yr oedd yn ofleryn cyssegredig. Y mae yr Archesgob Usher wedi rhoddi hanes o'r gynnadiedd a gymmerodd le rhyngddynt, allan o ddwy hen ysgrif. Y mae yr hanesydd eglwysig Milner, yn wir- ioneddol yn desgrilio y gynnadledd hou, fel "côf-adail o wag-ogoniant, yn ym- wisgo mewn ofergoeledd ac anwybodaeth ar un llaw, ac o wir ogoniant yn cael ei gynnorthwyo trwy ffydd a gobaith lesu, ar y Haw arall." " Pan ddaeth i bresennoldeb yr Ymer- awdwr (medd Milner) cyfarchwyd ef fel hyn gan Trajan: ' Y fath adyn annuwiol wyt li, i droseddu ein gorchymynion, ac i ddenu eneidiau ereill i'r un ynfydrwydd er eu distry w!' Ignatius a atebodd, • Ni ddylid galw Theophorus felly, canys y mae ysprydion drwg wedi ymadael o weision üuw. Ond os ydych yn fy ngalw yn an- nuwiol oblegid fy ngwrtbwynebiad, yr wyf yn addef y cyhuddiad yn yr ystyr hwnw ; canys yr wyf yn diddymu ei holl rwydau trwy gael fy nghynnorthwyo o'm mewn gan Grist, y Brenin nefol.'—-Trajan, ' Attolwg pwy yw Theophorus?'—Igna- tius, ' Yr hwn y mae ganddo Crist yn ei fynwes.'—Trajan, ' Onid wyt yn meddwl bod y duwiau yn trigo o'n mewn ninnau hefyd, y rhai sydd yn ymladd trosom yn erbyn ein gelynion ?'—Ignatius, ' Yr yd- ych yn camsynied, trwy alw ysprydion y cenedloedd yn dduwiau ; canys nid oes ond un Duw, yr hwn a wnaeth y nefoedd a'r ddaear, ac oll a'r sydd ynddynt; ac un