Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA, &c. rhif. 6.] MAWRTH, 1811. [llyfr ií. BUCH-DRAETHIAD. Buchwdd a Marwoìaeth y Parch. George Whitfield. GANWYD y Parchedig George Whitfield yn Nghaef- loyw, Rhagfyr 16, 1714. Tafarnwr oedd ei dad yn y dref hono. Yr oedd iddo chwech o feibìon ac un ferch, a George oedd yr ieuangaf, a dim ond dwy fîwydd oed pan fa farw ei dad. Yn ei ieuenctid bu gorfod arno gynnorthwyaw ei fam yn ei galwedigaeth, a bu hyny yn beth rhwystr iddo fyned rhagddo mewn dysgeidiaeth. Ond yn yr aaigylchiad anfanteisiol hwn, cyfansoddodd amryw bregethau, ac yr oedd neillduol ddifrifwch ynddo yn fore, ac ystyriaethatl dwys yn ei teddiannu yn aml am grefydd a mater enaid. Pan oedd ynghylch 17 oed, aeth i dderbyn sacrament swper yr Arglwydd yn y llan, a threuliodd lawer o*i amser yn flaenorol yn darllen, yn gweddi'aw, yn myfyriaw, ac }rn yin- prydiaw. Pan oedd ynghylch 18 oed, aeth i Ysgoldy (C&llege) Pembroke yn Rhydychain. Daeth yno yn gydna- byddus â rhai gwyr ieuainc difrifol, y rhai, oddiwrth ea dull trefnus a rheolaidd o fyw, a gawsant mewn gwaw'd yr enw Methodistiaid, sef trefnwyr, neu drefniedyddion. Yn mhlith y rhai byfì yr oedd y. ddau frawd, John a Chajle* Hh