Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA, &c. rhif. 7.] AWST, 1811. [llyfr ii. BUCH-DRAETHIAD. Buchwtdd a Marwolaeth y Parch. George Whitfìeld. (Paràad o du dalen 250.) AR ddychweliad Mr. Whitfield i Loegr, cafodd ei hun mewn sefyllfa ac amgylchiad newydd ac annys- gwyliadwy. Goreu y darlunia ef ei hun hií " Ond pa fath amgylchiad profedigaethus oedd yma! Yn fy awydd- fryd, tra yn teithiaw yn America, ysgrifenais ddau lytbyr, yn erbyn Hol) Ddyledswydd Dyn, ac Archesgob Tillolson —dau yr oedd pohl Lloegr yn dra hoflf o honynt yr amser hwn. Yr oedd fy nyben yn dda, er, hwyrach nad oedd y dull yr ysgrifenais hwynt mor gall ac addas ag y buasai dymunol. Dywedais, na wyddai Tillotson fwy am wir grefydd na Mohammed. Yr oedd y Morafiaid wedi ys- peilio rhai o'r cymdeithasau neillduol. Yr oedd Mr. John Weslcy wedi ysgrifenu o blaid perffeithrwydd, a phryned- igaeth gyffredinol; ac hefyd yjn gryf yn erbyn etholedig- aeth—athrawiaeth yr oeddwn i yn meddwl, ac yr ydwyf etto yn meddwl, a ddysgwyd i mi gan Dduw; ac am byny nas gallaf ei rhoddi i fynu. Yn ei farnu yn ddyledswydd arnaf i wneuthur felly, ysgrifenais ateb yn yr Elusendy, yr hwn, er ei arolygu a'i gymeradwyo gan rai duwinyddion daasynwyrol, etto yr wyf yn barnu ei fod yn cynnwys rhai Oo