Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA, &c. rhif. 12.] TACHWEDD, 1813, [llyfr II. BUCH-DRAETHIAD. Buchwcdd a Marwoìaeth y Parch. Peter Williams. GANWYD y gwr hwn yn nghymydogaeth Laugharne, yn swycld Gaerfyrddin. Dygwyd ef i fynu dan addysg Mr. Einion, yn yr Ysgol Rad (Free School) yn y dref hono. Bu gweinidogaeth y Parch. George White- field yn fendithiol iddo, yn nyddiau ei ieuenctid. Cafodd €Ì urddo yn ddiacon yn yr Eglwys Sefydledig. Bu yn gwasanaethu plwyf eglwys Cymun, yn swydd Gaerfyrddin, dros ryw hyd; ond cafodd ei droi oddi yno gan y Person, am, meddant, iddo fyned i wed-di mewn tý yn y plwyf. Gwedi hyny bu byw dros.ryw amser yn agos i Abertawe, yn swydd Forganwg, ac a fuasai yn weinidog (curatc) j plwyf hwnw, oni buusai ei fod yn ymddangos yn ormod w Fethodist, ac yn grefyddol wallgofus, fel y gelwid preg- ethwyr yr efengyl. Gwedi hyn trieodd yn y Gelli, yn mhlwyf Llandefeilog, yn swydd Gaerfyrddin. Bu yn bregethwr teithiol yn tnhlith y Methodistiaid Cymreig dros lawer o fîynyddoedd. Llafuriodd yn ddiwyd ac yn ffyddlawn yn ngwinllan yr Arglwydd. Teithiodd trwy bob tywydd, a goddefodd lawer yn achos yr efengyl; a bu yn fendith fawr i lawer o eneidiau yn y dyddiau tywyü yr oedd yn byw ynddynt. Yr oedd wedi ei gynnysgaethu a chorph cryf, ac à meddwl diysgoíç; vn gallel llafnrio Qq q