Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TYST APOSTOLAIDD. GORPHENAF, 1846. ©womsiDiöâiîr 33-îr©@i©a ^ìs asufWîs BARMBAS A'I YSGETFEMADAU. Wedi ymadawiad Barnabas â Paul nid oes genym fel y sylwasom o'r blaen, ddim gwybodaeth sicr am dano, na pba le y liafuriodd, na pba lwyddiant a fu ar ei weinidogaeth, nac yn mha îe y bu farw na dim. Ond fe gesglir oddiwrtb fod Marc ei nai gyda Paul yn amser ei gar- cbariad yn Rhufain, fel y gwelir yn Col. iv. 10. "Y mae Aristarchus fy nghyd- garcharor, yn eich anerch; a Marc, nai Barnabns fab ei chwaer (am yr hwn y derbyniasoch orchymynion: os daw atoch derbyniwch ef,)" ei fod ef wedi marw y pryd hyny, a bod Marc wedi dyfod at Paul yn ol cynghor ei ewythr, a chael ei gymodi âg ef, a'i gymeradwyo ganddo fel Efengylwr. Gwelwn hefyd, fod Marc gyda Timotheus yn Ephesus, yn amser ail garchariad Paul yn Rhufain; fel y gwelwn yn 2 Tim. iv. 11. " Luc yn unig sydd gyda mi. Cymer Marc, a dwg gyd â thi: canys bnddiol yw efe i mi i'r wein- idogaeth." Am y flwyddyn y bu farw, nis gellir bod yn sicr; ond os ar ol hyny yr ymunodd ei nai â Paul, mae yn rhaid nad oedd yn ddiweddarach na'r fîwydd- yn 63 neu 64, oed Crist. Haerwyd gan rai, fod Chrysostom yn "llefaru am Bar- nabas fel yn fyw, yn y flwyddyn 63." Ond yr hyn y mae ef yn ei ddywedyd yn gywir am y peth yw hyn:—Yn ei itnfed Homily ar ddeg, ar yr Epistol at y Colos- iaid, sylwa ar Pen. iv. 10. " Am yr hwn y derbyniasoch orchymynion, os daw atoch derbyniwch."—"Fe allai eu bod wedi derbyn gorch'mynion oddiwrth Bar- nabas." Nid oes yma ond tyb yn unig. Pan y dechreuodd yr eglwysi ymryson am oruchafiaeth ar y naill y llall, oblegyd enwogrwydd y sylfaenwyr o honynt; yr oedd pob un o honynt yn hòni eu bod wedi cael eu sylfaenu, naill ai gan Apos- tol neu gan ŵr apostolaidd. Felly, yn mhlith ereill, darfu yr eglwys enwog yn Milan, benu ar Barnabas fel ei sylfaen- ydd, a'i Hesgob cyntaf; ond dywedir fod y traddodiad mor anhebyg, fel nad yw Ambros, yr hwn a anwyd yn y flwyddyn 340, ac a fu farw yn y flwyddyn 397, yn gwneyd un cyfeiriad o fath yn y byd at Barnabas, pan yn llefaru am yr Esgobion a fuasent yn yr eglwys bòno o'i flaen ef. Ond am yr eglwys yn Ynys Cyprys, gellir dywedyd ei bod wedi bod yn fwy dedwydd yn ei hawl i'r anrhydedd o'i gael ef yn Esgobcyntaf iddi. Ond ymae cymaint o dwyll a chwedlau gwneuthur wedi cael eu defnyddio, er amddifíyn yr anrhydedd hwn, gan hòno hefyd, fel nös gellir ymddiried dim am ei eirwiredd ya y mesur lleiaf Ond nid oes genym ddim gwell arweinwyr yn yr ymofyniad na rhyw fíug-waith o'r enw Acta et Passìo Barnabx in Cypro, a dadogir arloan Marc, yr hwn, y mae yn debygol, oddiwrth y wybodaeth a ddengys yr awdwr o leoedd yn Cyprys, a ysgrifenwyd gan ryw bre- swylydd o'r Ynys hòno; a chwedlau Al- ecsander, monach o Cyprys, a Theodore, a elwir yn gyflredin Leetor, hyny yw darllenydd, o Caercystenyn. Mae y ddau ddiweddaf hyn wedi ysgrifenu yn y chweched canrif. Yn ol hanes Alec- sander, darfu i Barnabas wedi ymadael â Paul, dirio yn Cyprys, a myned trwy yr holl Ynys, a dychwelyd rhifedi mawr i'r ffydd Gristionogol; ac o'r diwedd, efe a gyraeddodd i Salamis, lle y pregethodd yn y synagog gyda Uwyddiant mawr. Yna y canlynwyd gan ryw Iuddewon o