Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr Ŵthronydd Cymreig (The Welsh Philosopher). Rhif 37]. MEDI, 1893. [Cyf. IV, YR YSGOL DDUWINYDDOL. Personoliaeth Duw. ANWYL GY.FEILLION.—Priodoly dywedai PJato pan yn sefyll uwchben bodolaeth Duw fel Bod anfeidrol a phersonol. '' Dechreuwn gan hyny, trwy ofyn a ydyw yr oli o'r hyn a alwent yn fydysawd wedi ei adael i ddamwain ddall ac afresymol neu i'r gwrthwyneb fel y datganai ein tadau, yn cael ei drefnu a'i lywodraethu gan ddealldwriaeth, a doethineb rhyfeddol. " " Hawdd i'rynfyd," ebai J. Service, " ac yn enwedig yr ynfyd dysgedig a gwyddonol i brofi nad oes yr un Duw, ond fel murmur y mor, nad ywyn malio yn ysgrech yr adar crwydredig, felly enaiá dynoliaeth sydd yn murmur am Dduw, gan wTawdio ffolineb dysgedig yr ynfyd trwy ei ddiystyru." " Atheistiaith," medd Comti ydyw y tTurf fwyaf afresymol odduwinyddiaith," a pha ryfedd i Renan ddweyd, " Yn y momentau yr ydym oreu, yr ydym yn credu yn Nuw." Dywedodd Volkmar nad oes ond tri math o grefyddau yn y byd yn credu yn Undod y Duwdcd, sef Iuddewiaeth, Cristionogaeth,a Mahometaniaeth,abod y ddwy olaf wedi derbyn y syniad oddiwrth y gyntaf, mai yn mhlith cenedl etholedig Duw Israel, Jyr oedd addoíiad yr un ar gwir Dduw yr hwn yn unig sydd yn deilwng o addoliad. Cristionogaeth ydyw gwir add- oliad Duw yn Israel, wedi blodeuo, a phrwytho, ac wedi