Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr Althronydd Cymreig (The Welsh Philosopher). Rhif 38]. HYDREF, 1S93. [Cyf. IV. ESBONIAD AR Y LLYTHYR AT YR HEBREAID Pennod II.—(Parhad). }>• Archoffeiriad ŷyddlon a ilmigarog, ADNODAU 16—18.—" Canys ni chymerodd et'e naturiaeth angylion ; eithr had Abraham a gym- erodd efe." Y mae dau ddrychfeddwl mawr yn rhedeg trwy yr adnodau hyn, sef Mab Duw yn cymeryd gafael yn y ddynoliaeth a'r gweddusrwydd a'r cyfaddasder iddo ef wneyd hyny, ac nid neb arall. Y mae darlleniad cyffredin yr adnod hon yn awgrymu cyfranogiad y mab â dynoliaeth, " Ni chymerodd efe naturiaeth angylion," ond naturiaeth dynion. Y mae hynv yn ffaith. a dyna sydd yn cael ei ddysgu yn adnodau 14 a 15. Gwir lod y mab yn ddyn, yn gyfranog o wir ddynoliaeth, ond nid dyna sydd gan yr Awdwr yn yr ainod j6, ac y mae y cyfieithiad cyffredin yn anghywir. Nid oes yn y frawddeg ddim yn cyfleu y syniad o " naturiaeth" angylion. Y mae y g"eiriau yn y presenol ac i'w darllen felly. Y darüeniad cywir o'r adnod jdyw " Yn wir nid mewn angylion y cymer efe afael : ond yn had Abraham y mae efe yn cymeryd gafael." Pe yn cyfeirio at gyiiieryd y ddynoliaeth ato ei hun, buasai yn darllen ni "chymerodd efe naturiaeth angylion," fel y gwneir yn y lcyfieithiad cyft'redin. Ond y drychfeddwl yma ydyw fod yr Archoffeiriad mawr yn cymeryd gafael yn mhob dyn a dynes sydd yn fyw ar y ddaear. Efe yn ol y trefniant