Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYNGARWR: RhifI 2. CHWEFROR, 1879. Cyf. I. ACHOSION MEDDWDOD EIN GWLAD. GAN Y PARCH. D. GRIFFITH, DOLGELLATJ. LlA"WER a ddywedwyd, ac a ddywedir beunydd, yn nghylcli drygedd ac erchylldra y drwg ofnadwy hwn—meddwdod. O'r holl ddrygau a gynyrcha pechod, hwn, 0 bosibl, fw y mwyaf anwar, a'r ffieiddiaf. Priodol yr edrychir arno fel rhiant erehyllaf llygredigaeth, a throsedd y troseddau. Anhawdd d'od o hyd i neb, i'e, hyd yn nod meddwyn, ar nas teimla yn llym yn ei erbyn ar amserau. Y mae dan gondemniad cyffredinol! Eto, yma yr erys! ! Erys hefyd mewn rhwysg mawr, gan ledaenu ei wenwyn drwy holl gylchoedd cym- deithas, gan anrheithio yn f wy ofnadwy a chyson nag unrhyw bla y clywsom am dano. Erys, am fod yr achosion o hono yn aros, a'r hudohaethau iddo wedi eu lluosogi i'r fath raddau yn y tir. Ond beth am yr achosion o'r holl anghymedroldeb y mae genym gymaint o gwyno o'i herwydd ? Diau ein bod i edrych am y prif achos o anghymedroldeb pob gẁlad yn yr anghymedrolion eu hunain, yn eu hoffder at gyffroad anianol, yn eu gwendid moesol, ac yn eu hewyllysgarwch parod i ymollwng gyda them- tasiwn. Ategir hyn oll gan achosion ereill yn deilliaw o sefyllfa bresenol cym- deithas, megys llafur gorlethol, amledd tafarndai, anghysur cartrefl, anghre- fyddolder teuluoedd, a'r diffyg hwnw o hunan-barch a gynyrchir gan deimlad o israddoideb cyflwr a sefyllfa; oherwydd y pethau hyn ymollynga llaweroedd i ddeehreu yfed a meddwi; o'r diwedd daw lluaws o honynt i ddibrisio eu hun- ain. _ Teinilant fel pe na byddai ganddynt gymeriad i'w golli. A chan yr ysbeilir hwynt fel hyn o amddiffyniad cadarn rhag troseddau isel, deuant yn fwy-fwy hoff o bleserau y gyfeddach, ac yn fwy-fwy tueddol at arferion geirwon a bwystfìlaidd. At yr achosion rhag-grybwylledig, rhaid hefyd enwi eangiad masnach, codiad niewn cyflogau, a'r gofyn mawr am lafur bechgynach ieuainc, yr hyn a bair fod llaweroedd yn dyfod. yn annibynol ar eu rhieni braidd yn gynt nag y byddai yn ddymunol. Enillant arian lawer cyn deall pa fodd oreu i'w defnyddio. Wedi cael blas ar ddiota, os digwydd felly, ânt yn hyfion ac aflywodraethus gartref; ac yn hytrach nag ymostwng i ddisgyblaeth ddoeth, ymaith a hwy gan ymsefydlu yn y lleoedd mwyaf cyfleus at ddiota, yn ol pob tebyg. Eywsut yn y ffordd hon, fel y mae yn ofìdus dweyd, y daw nifer mawr hyd yn nod o rai a fagwyd ar aelwydydd crefyddol, i chwyddo rhengoedd diotwyr mwyaf gresynol ein gwlad. Dengys yr oes hon, fel y crybwyllwyd genym yn barod, duedd gref at bob math ar gynhyrfiadau. Wrth reswm, nis gall hyn lai na dylanwadu, i raddau mawr, ar y duedd yfawl anghymedrol yr ydys yn son am dani. Bhaid i ddyn- ion wrth gyffroawd, wrth exàtement, yn awr,—dyma yr eisieu cyffredinol. Eel ysylwa ysgrifenydd Americanaidd galluog—" Y mae tawelweh, sobrwydd, a diwydrwydd dyfalbarhaol ein tadau yn cael eu dilyn, erbyn hyn, gan a$ es- mwythdra twymynol. Nid y llyfrau mawr, safonol, ac anfarwol o eiddo athrylith, y rhai a ofynant fyfyrdod dwys ac a gyffroant deimlad dwfn, a ddarllenir, ond gweithiau byrnoedlog, y rhedir drwyddynt gyda chyflymdra y rheüffordd, ac a roddant fodähad nid annhebyg i'r hyn a gynyrçbir gan gyffyr-