Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYNGARWR: Cülrjrgmímt §ixktúol Rhif. 4. EBRILL, 1879. Cyf. I. YMDEECHU YN LLWYDDO. GAN Y PARCH. E. EILLIN, PERIGLOB, FFESTDTIOG, A DEON GWLADOL ARDUDWY. Cyflwynwn y sylwadau canlynol i sylw ein darllenwyr er eu eyffroi i wneuthur ymdrech adnowyddol yn mlilaid sobrwydd, moesoldeb, a chrefydd y lleoedd a breswyliant. Gfnwn fod sefyllfa foesol llawer lle yn aros eto yn rhy debyg i eiddo cin pentref ninau yn y blynyddau pynt. Ac nis gellir eu diwygio ond trwy ymdrech rymus, gydweithredol, a dyfalbarhaol. ÎSîis gellir chwaith ddinystrio drwj arftrion neülduol ond trwy wneyd ymdrechion neillduol yn eu herbyn. Aros a wnaethai caethwasanaeth yn ein llywodraeth hyd heddyw, oni buasai i ymdrechion neillduol gael eu defnyddio i'w dileu. Aros a wna diota, cyfeddach, a meddwdod ein hardaloedd, hyd nes yr arferir ymdrechion neillduol digon grymus yn eu herbyu. Nid y w o nemawr bwys betíi fyddo enw yr ysgogiad, y sefydliad, neu y gymdeithas a gyfuna sobrwydd-garwyr i gyfìawni y cyfryw waith arbenig. Yn Maentwrog etyb Temlyddiaeth Dda y dyben yn rhagorol, ac yr ydym ninau yn cael llawenhau a diolch. Ar y 9fed 0 Chwefror, eyrhaeddodd Teml Twrog ben y chweched flwyddyn o'i hoedran, a chafwyd cyfarfodydd pur lwyddianus y noswaith hono a phryd- nawn y Suí dilynol, y rhai a anerchwyd yn effeithiol gan Plenydd ac eraill. Er nad yw Maentwrog ond pentref bychan, yr oedd yn un o'r llecedd meddwaf a mwyaf afreolus o'i faint a adnabum erioed. Mor ddrwg eu cwrs oedd yr ieuenctyd fel y cymerent eu rhyddid i anmharchu prif bobl y lle os elent trwy y pentref heibio y tafaraau a'r Ueoedd yr ymdyrent at eu gilydd ddechreunos, a llefarent eiriau bryntion am danynt yn ddigom uchel iddynt eu clywed. Byddai boneddigesau yn agored i gael eu sarhau os äent yn agos atynt, a bum fy hun yn llygad-dyst o'u hanfoesgarwch lawer tro. Yr oedd yn yr ardal amryw o blant amddifaid a gwragedd gweddwon, y rhai a gollasent eu tadau a'u gwyr trwy iddynt syrthio dros y clogwyni neu gysgu allan yn eu meddwdod a marw; eraül mewn angen ain angenrheidiau bywyd, a llawer bron a chael tori eu calonau gan feddwdod eu meibion anwyl ac hoff. Dyna oedd cyflwr moesol y pentref pany sefydlwydy Deml yn ein plith, yn nghanol cymeradwyaeth y trig- olion. Byddwn i yn arfer ymweled â dyn y pryd hyny ar ei wely an°;eu, ac eb efe wrthyf, " O na b'ai fy n.achgen iyn dyfod yn Demlydd Da am un flwyddyn, yr wyf yn gobeithio y delai efe ar ol hyny i f eddu digon o synwyr f el ag i gasau y ddiod feddwol." Trwy drugaredd efe a ymunodd â'r deml, ac ni chlywais son byth mwy ei f od nac yn feddw nac yn aflonyddu nebaryrheol. Dilynodd lluaws eraill ef, a byth o'r pryd hwnw hyd heddyw ni welais ddim anWeddus yn y pentref. Y mae yma ddwy dafars., ond trwyddeà chwe' diwrnod sydd yn awr gan y naill, ac nid yw y llall ddim yn agor ei dorau i'r pentrefwyr ar y Sul. Y mae un tô o ieuencbyd wedi eu cludo yn ddiogel dros gyfnod gwyllt eu b} wyd yn ystod y chwe' blynedd diweddaf, a thragwyddoldeb yn unig a ddengys y peryglon y diangasant rhagddynt, a'r bendithion a dywalltwyd arnynt. Mae yn ddios fod gormod o lawer o gyfeddaeh a meddwdod eto yma ; çnd credwyf fod yma lawer crefyddwr gloyw a waredwyd gan Demlyddiaeth—