Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYNGARWR: •, Rhif. 6. MEHEFIN, 1879. Cyf. I. Y IASNACH FEDDWOL YN NIWEIDIO CYSYLLTIADAU PWYSICAF DYN. GAN Y PARCH. ISHMAEL EVANS, TRE'rGABTH, LLYWYDD CYMANEA DDIEWESTOL GWYNEDD. Addefa y darllenydd fod cysylltiad dyn â deddf yn bwysig. Tybier am ddeddfau, neu gyfreithiau gwladol, y mae cysylltiad pwysig rhwng pob un o'r deiliaid â hwy;—y mae eu cadw yn bwysig er cysur ac anrhydedd y deiliaid, a bydd eu troseddu yn bwysig am y daw hyny a'r troseddwr i afael gwaradwydd a chosbedigaeth. Diamheu eenymyr addefa y darllenydd un ffaith arall, sef fod y cysur a'r anrhydedd sydd mewn ffyddlondeb i gadw deddfau yn dibynu ar gyfìawnder a thegwch y deddfau hyny. Nid cadw rhyw ddeddf a gynyrcha ddedwyddwch. Ehaid cael deddfau da, cyfiawn, cyn y dyogelir anrhydedd y deiliaid ufudd iddynt, a chyn y bydd yr hawl i gosbi y troseddwr ar dir cadarn. Dengys hyn fod pwysigrwydd perthynas dyn â deddf yn ymranu i ddau gyfeiriad—y deddfwr a'r deiliaid—yr hwn sydd yn ffurfio, ac yn gweinyddu y ddeddf, a'r hwn sydd i ufuddhau iddi. A'r gwirionedd difrifol a ymdrechwn ei ddangos ydyw, fod y fasnach feddwol, oherwydd y prynu a'r yfed sydd ar ei nhwyddau, a thrwy y gefnogaeth a roddir iddi mewn moddau eraill; yn niweidio dyn yn y cysylltiadau pwysig a awgrymwyd. Yr unplygrwydd, a'r cyfiawnder hwnw sydd i fod wrth wraidd rhoddiad deddf : y gostyngeiddrwydd, a'r nerth sydd yn ofynol er cadwraeth deddf : fe beryglir y naill a'r llall gan rhyw ddylanwad o eiddo y fasnach feddwol. Yn y cynghor a roddwyd i LemueJ, y brenhin ieuanc, awgrymir fodperygl i ymarferiad â gwin eianghym- wyso i gyflawni ei swydd fel un oedd i ofalu fod y ddeddf yn cael ei gweinyddu yn briodol. " Nid gweddaidd i frenhinoedd, 0 Lemuel, nid gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin, nac i benaduriaid ddiod gadarn. Ehag iddynt yfed ac ebergofi y ddeddf, a niweidio barn yr un o'r rhai gorthrymedig." Ymweith- iodd y perygl a grybwyllir gan y fam lygadog yna i'r golwg gannoedd o weith- iau yn hanes brenhinoedd a phenaduriaid moethus a meddw. Pa sawl gwaith y mae eistedd wrth y gwpan win wedi claddu deddf o'r golwg, a pheri i farn yn nglŷn â'r gorthrymedig gael ei gwyro. Ceir aml ddeddf mewn llawer gwlad, sydd yn ei gorthrwm yn profi ei chysylltiad â phechod, ie, â'r pechod a fagwyd gan y fasnach feddwol ag sydd yn un o'r rhwystrau mwyaf ar ffordd deddfwriaeth dda. Os am ddeddfau da, os am gyfiawnder i'r gorthiymedig, rhaid para i ddysgu, mai nid gŵeddaidd i ddeddf-wneuthurwyr a deddf-weinyddwyr yfed gwin a diod gadarn. Ofnwn fod y perygl y rhybuddiwyd Lemuel am dano, wedi ymweithio i Ddeddfurfa Prydain Pawr. Pa un bynag ai cywir ynte anghywir y syniad yna, teimlwn hyn yn gryf mai i'r graddau yr enilla y fasnach hon ddylanwad yn Senedd ein gwlad, mai i'r graddau hyny y gwanheir ei gallu i ffurfio deddfau a ddyogela anrhydedd.;»'dedwyddwch y wladwriaeth. Mor gyflym ag y mae Prydain yn myned yn Brydain "feddw, y mae yn myned yn Brydain wan i ddeddfu er cysur a dyrchafiad y deüiaid.