Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYNGARWR: Rhif. 8. AWST, 1879. Cyf. I. AMRYW FATHAU 0 DDIRWESTWYR. GAN H. CERNYW WILLIAMS, CORWElí. Y mae y fyddin ddirwestol bellach yn dra lluosog yh y byd, a'i mhilwyr i'w rhifo wrth y miliynau. Y mae yr ymdrech galed yr aeth y tadau iddi wedi cael ei choroni â llwyddiant mawr. Ond nid y w pawb sydd yn dwyn yr enwau dirwestwyr yn gwisgo yr un nodwedd, nac yn cerdded wrth yr un rheol. Cymerwn gipdrem ar rai ohonynt. I. Y dirwestwr rhagrithiol.—Dywed rhai yfwyr gwirod nad oes un dirwestwr cywlr a hollol i'w gael, yr hyn sydd yn gabldraeth amlwg. Barnanthyn, mae'n debyg, oddiar eu profìaä eu hunain, a'r ffaith fod rhai enghreiphtiau o ddynion yn'proffesu bod yn ddirwestwyr pan nad ydynt. Ond mewn meddu proffeswyr o'r fath nid yw dirwest yn eithriad i achosion da eraill. Proffesai rhai fod yn Iuddewon gynt pan nad oeddynt ond synagog Satan; a dywed yr Apostol mai nid Israel pawb oedd o Itrael. Nid teg barnu teilyngdod unrhyw achos wrth ymddygiadau rhai fel hyn, mwy nag y dylid barnu ansawdd y maes wrth edrych arddeilen wywedig chwythwyd gan y gwynti'r fan. Y mae arian ffugiol yn profi gwerth arian da : felly rhaid f od dirwest erbyn hyn yn uchel yn marn y cyhoedd onide ni chawsid rhai i honi bod yn ddeiliaid yn ei theymas, pan na feddant gariad at ei hegwyddor, Ond o angenrheidrwydd gwna dynion o'r fath lawer o niwed, a rhaid fod elfenau bywyd yn yr achos neu buasai wedi trengu mewn canlyniad i'r rclwyfau gafodd yn nhy ei garedigion. Os gall cymdeithas fyw 'gyda rhai o'r fath, mae yn sicr y gallai fyw hebddynt gan mai elfen o wendid ydynt. " Do not as some ungenerous pastors do, Show me the steep and thorny way to heaven, Whilst like a pufl'd and reckless libertine Hünself the primrose path of dalliance treads And recks not his own read." 2. T dirwestwr damiueiniol.—Dichon mai "damwain bywyd" a'igwnaethyn ddirwestwr, ac felly nid yw yr hâd wedi cael dyfnder daear yn ei yspryd. Nid yw wedi mabwysiadu llwyrymwrthodiad fel cynyrch argyhoeddiad enaid o ddifrif, ond am na ddigwyddodd erioed gael ei hun o dan ddylanwad andwyol hudoliaethau'r gelyn. Mae gan ambell un i ddiolch i'w gyfansoddiad nad oes ganddo duedd at y drwg hwn, ac y mae tymheredd ei yspryd yn darian amddiffynol iddo. Y feddyginiaeth i glauarineb y brawd hwn fyddai taflu trem mynych ar y gyflafan a achosir gan y fasnach feddwol, sylwi fel yr yspeilia y gair cartref o'i swyn,—fel y try nerth y cryf yn wendid, a chariad mam yn greulondeb—fel y pair i lawer un rwymo ei hun âg arferiad sydd ar y cyntaf fel gwawn sidanaidd, ond or diwedd f el rhaff gadarn yn ymgasglu am dano f el nas gall dd'od yn rhydd. Dywedai Pope " Vice is a monster of so frightful mien As to be hated needs only to be seen, But seen too oft familiar wlth her face We fìrst endure, then pity, then embrace." Ond y mae y cwbl yn ymddibynu ar y teimlad y byddwn ynddo pan yn cymeryd. golwg ar y drwg. Os edrychwn ar weithrediad pechod yn yspryd Iesu o Nazareöi awn i'w gasau yn fwy o ddydd i ddydd, a bydd i ni ymarfer ymdrechion mwy egniol yn ei erbyn,