Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

VJ^J <:'^Z ^r liìẃiiîptjìrò ijr € ghnp ŵno y» ei 'phalasau a adwaenir yn amddiŷynfa.—Vs. xlviii. 3. 1« { ■ Cyf. II. Rhif. 5. MAI, 1882. r CYFRES -1 PtíT'í 2tt LnewyddJ raia ^U. <£rîrn0ÎuIr. Y CYFRIFIADAU CREFYDDOL DIWEDDAR. AE y cyfrifiadau crefyddol a wneir yn fynychaf mewn gelyniaeth at yr Eglwys, gyd â'r diben o gydmaru rhif yr Eglwys- wyr â rhif yr Ymneillduwyr, wedi bod yn fanteẃiol i'r Eglwys mewn llawer o fannau, trwy alw sylw at ei diffygion ac ennyn awydd yn ei haelodau i wneud darpariaethau ychwanegol ar gyfer crefyddoli y boblogaeth. Gobeithiwn y cawn weled llawer o gyf- rifiadau etto yn cael eu gwneud. Nid oes dini yn f wy llesol i'r Eglwys na dangos ym mha le y mae yn wan. Ond weithiau yn lle dangos gwendid mae ychydig o ymholiad yn dwyn ei chryfder i'r golwg, ac yn taflu goleuni ar ammherffeithrwydd (ni ddy- wedwn annhegwch bwriadol) yr ystadegwyr gwrth- Eglwysig. Cawn engraifft yng nghyfrifiad Bourne- mouth. Yn y cyfrifiad a ymddangosodd yn y Local Dircctory, rhif yr Eglwyswyr yn bresennol ar y Sul fim 11 y boreu, a 7 yr hwyr, oedd 7,671; rhif yr Anghydffurfwyr o bob enwad ar yr un oriau, 4,958. Gwelwn fan yma fod yr Eglwyswyr yn fwy lliosog o lawer, a gallasem ymfoddloni fod y ffígyrau yn ddigon ffafriol; ond ymddengys yn awr fod coll pwysig yn y cyfrifiad. Mewn wyth o'r Eglwysi cynhelir moddion ar oriau eraill ar y Sul heblaw am 11 yn y boreu a 7 yn yr hwyr. Yr oriau ydynt 7 ac 8 y boreu a 3 a 4 y prydnawn. Ar Sul y cyfrifiad yr oedd yn bresennol ar yr oriau hyn 3,046. Fel na byddo anhawsder rhoi prawf ar y ffigyrau, enwir y rhifedi ym mhob un o'r wyth Eglwys fel y canlyn:—Yn St. Petr, 958; y Drindod, 539; St. Michael, 349; St. Clement, 519; St. Swithun, 186; St. Paul, 309; St. Stephen, 116; St. George, 70: y cyfan yn 3,046. Dylid felly ychwanegu 3,046 at y 7,671; a chyfanswm yr Eg- lwyswyr yn awr yw 10,717, nid 7,671. Cyfanswm yr Anghydffurfwyr sydd yn aros yr un fath. Nid oes ganddynt wasanaeth am 7 ac 8 yn y boreu, ac, mor belled ag yr ydym yn deall, nid oes ganddynt ddim wedi ei adael allarç o'r cyfrifiad. Mwy cymmwys felly fyddai gwrthgyferbynu rhif yr addolwyr yn yr Eglwysi a'r Capeli yn Bournmouth ar Sul y cyfrifiad yn gysson â'r cyflawn ffeithiau. Fel hyn y safant— Y rhif yn yr Eglwysi ar y Sul ......10,717 ,, „ y Capeli Anghydffurfiol ... 4,9í>8 Ni ddylid derbyn un cyfrifiad a gyhoeddir am ein rhifedi heb adolygiad. DEDDFWRIAETH EGLWYSIG. Fetjefiwyd yn ddiweddar bwyllgor cyffredinol allan o, a chan, aelodau Cynhadledd Flynyddol y gwahanol Esgobaethau. Mao y pwyllgor yn gynnwysedig o dri o leygwyr a thri o ofl'eiriaid o bob Esgobaeth. Penderfynodd y pwyllgor yma yn ddiweddar ffurfio îs-bwyllgor seneddol, i'r diben, yn gyntaf, o wneud rhagchwiliad o'r modd y gellir disgwyl aelodau o'r Parliament bleidleisio ar unrhyw bwngc perthynol i'r Eglwys: yn ail, i ennill cefnogaeth i'r mesurau hynny a gymmaradwyir gan Eglwyswyr yn y Con- focasiwn a'r Cynnadleddau fel yn deilwng o fod yn destynau deddfwriaeth. Ystyriwn ei bod yn llawn bryd ffurfio pwyllgor o'r fath, wrth weled nifer y mesurau Eglwysaidd, gan gyfeillion a gelynion, a gyn- nygir yn y senedd yn awr. Ni fwriedir i'r pwyllgor fod yn un politicaidd. Gwneir ef i fyny o Geidwad- wyr a Rhyddfrydwyr. Ei ddiben fydd nid cynnorth- wyo plaid wladol, ond sicrhau chwareu teg i'r Eglwya yn y senedd. Y PROTESTANT DISSENTING DEPUTIES. Ymddenöys oddiwrth araeth Mr. Henry Richard, yng nghyfarfod blynyddol y Dirprwywyr Ymneill- duol yn Llundain, pa mor angenrheidiol yw pwyllgor Eglwysig seneddol o'r natur uchod. Llongyfarchai y cyfarfod am lwyddiant y üirprwywyr yn y gorphenol. Cyfeiriai at amryw gynnygiadau at ddeddfwriaeth ddyfodol. Yn eu plith yr oedd un gan ei gyfaill Mr. Morgan Lloyd i amddifadu offeiriaid anufudd o'u bywiolaethau, yn lle eu rhoi yn y carchar. Yr oedd dau Fil ar y cwestiwn Claddu, un gan Mr. Brinton, yn dal perthynas â thaliadau, yr hwn, yn ol ei ddis-