Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

IEUAN O LEYN GANWYD J. H. Hugh.es (leuan o Leyn) yn Nhy'n y Pwll, Llaniestyn, ar yr unfed dydd ar ddeg o Hydref, 1814. Saif Ty'n y Pwll ar un o lethrau aml Lleyn, yng ngwydd y mynyddoedd a'r môr. Oddiwrth fedd Robert Jones Rhos Lan, ym mynwent Llaniestyn, gwelir talcen gwyngalchog yr amaethdy bychan ar y fron fry, a Charn Fadryn megis yn edrych arnom drosto. Y mae draenen fawr eto'n cysgodi'r cartref hwn; ac ohono gwelai Ieuan ysgol Botwnog a'r môr oedd i'w groesi ry w ddydd. Cyfyng oedd amgylchiadau ei dad, fel amgylehiadau y rhan fwyaf o amaethwyr cynnil a llafurus Cymru, ac ni chafodd y bachgen ond ychydig o fanteision addysg yn ei febyd. Dy wed pobl Llaniestyn eu bod yn ei gofìo'n cerdded i hen ysgol Botwnog, ysgol fu mor fendithlawn i fechgyn Lleyn. Yr oedd awydd angerddol am wybodaeth yn y bachgen, a gallu i ddygn ddyfal- barhau. Yr oedd mynd i'r coleg yn nôd o'i ílaen, a medrodd gyfaddasu ei hun i fod yn athraw cyn- orthwyol yn ysgol y Dr. Arthur Jones o Fangor. Methodistiaid Calfinaidd oedd ei deulu, ond tyfodd i fyny yn Anibynnwr unig yn eu mysg. Gweithiodd yn galed fel athraw, a phregethai gyda brwdfrydedd yr ieuanc pan gai gy^e. O'r diwedd gwelodd ddrysau coleg yn agor o'i ílaen, a chafodd ei dderbyn yn efrydydd cyntaf Coleg Aberhonddu. Wedi gorffen ei gwrs yno, ordeiniwyd ef yn weinidog yn Llangollen yn 1843. Ond nid oedd ymgartrefu yn y lle prydferth hwn wrth ei fodd; yr oedd awydd am bregethu'r efengyl i baganiaid gwledydd pell wedi 51 IEUAN O LETN.