Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SfetDtgttw Sttyettftl* " Hir-hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant."—Solomon. RlIIF. 11.] RHAGFYR, 1838. [Pris Ceiniog. NATUR A CHELFYDDYD. Nid yw anghenion natur ond ychydig, ac nid yw yr ychydig hwnw un amser mor fuddiol â phan ddefnyrìdir ef yn' ol ei ddeddfau naturiol. Oblegid i'r graddau yr ydym yn cyfnewid natur pethau llesiol, er gwasanaethu ein archrcaeth ni, i'r graddau hyny y maent yn anghydffurfio ù llesâd ein cyfansoddiad. Os yw ŷd y maes yn ei ansawdd naturiol yn ymgeledd i ni, mewn ansawdd wahanol nid yw. Meithriniad ein cyrffsydd yn ymddibynu yn fawr ar lygriad sylweddau ereill, ond nid yw y llygriad hwn i gymmeryd lle ond yn unig o fewn y cyfansoddiad a feithrinir. Dichou celfyddyd gyfnewid natur pethau, treulio a Hygru eu gwir rinwedd, ond pan na adewir y cyfryw oruchwyliaeth i beir- iannau y coríf, nis gallant ond ei gynhyrfu i dreulio ei hun. Mae yr holl ymweithiad sydd reidiol i gelfyddyd gyflawni ar ddef- nyddiau bara, er eu cymhwyso yn ddiod gynhyrflol a meddwol, yn hanfodol i'n cyf- ansoddiad i'w gyflawni er gwneyd b'ara yn ymborth. Goleuni, awyr, cyfnewidiadau yr hîn, ac yn enwedig,llafur corfforol, ydyw y cyfryngau naturiol a dreftipdd y Creawdwr i gynhyifu ein cyrff. Ond er cynnal ein cyfansoddiad dan effaith y cynhyrfiadau hyn, rhyngodd bodd i ynfydrwydd dyn ychwanegu atynt gynhyrfiadau annaturiol celfyddyd! Ymborth a gorphwysdra y w y moddion naturiol er ein adfywio dan lafur a llndded ; ond nid yw y rhai hyn yn fwy anghenrheidiol yn ngolwg llawer Cymro nâ chyffröadau diodydd cryfion. Mae natur, er ei diwalliad, yn ymhyf- rydu yn y pethau mwyaf naturiol a ddef- nyddiwch—pethau yn ol eu naturiaeth, ac ni chenhedlant flys anghymhedrol atynt. Oblegid mewn pethau hawddaf eu hebgor y mae y gormodedd mwyaf, a plietliau diangen sydd yn achosi yr anghenwn amlaf. Greddf y creadur direswm a'i dysg mewn pa beth y dylai fod yn gymhedrol, yn gystal â pheth yw mesur y cymhedroldeb hwnw, canys ag ymhorth anghenrheidiol, y diwellirefgan yr anghenrheidiau hyn dros derfyn digonolrwydd. Dyn yn unig sydd yn ymyraeth â phethau cymmysg ac am- rywiol, llawer o ba rai nad ydynt na.bwyd na diod, ac archwaeth atynt nis gellir ei ffurflo heb orchfygu yn gyfartal yr ar- chwaeth briodol i'r hyn sydd anghenrhaid. Mor anhawdd ydyw ffurfio blys at fyglys! Mor anhawdd diwallu y blys hwnw! A a pha faint mwy i'w ddiwreiddio ? Ond ni chyfansoddir blys at ddiodydd meddwol trwy lwybr gwahanol. Oblegid effaith dau sylwedd yn gweithredu ar eu gilydd ydyw meddwdod, ac heb iddynt weithredu felly, mae yn anmhosibl fod tueddiad yn y me- ddwl, nac ymflysiad yn y corff at ddefnydd- iau meddwol. Nid oes dim yn gweithredu mor gryf ar y meddwl â'r diodydd hyn, ac nid ydynt yn achosi meddwdod ond i'r graddau y gweithredant ar y sylwedd me- ddylgar. Ac y mae yn deilwng o sylw, nad oes ond ychydig yn meddwi o fwriad, na neb yn caru meddwdod am yr hyn yw, yr hyn sydd brawf mae natur y peth yn fwy ná'r mesur o hono, ydyw gwreiddyn y drwg; canys nid yw natur y diferyn cyntaf a yfir yn llai ei rym na'i eftaith nâ'r diferyn olaf panfeddwer. Nid natur yr ymborth sydd yn achosi glythineb—neu os gellir profi fod glythineb yn fwy naturiol i rai bwydydd nac ereill, ymwader á hwynt, yn gystal â'r hyn oll a gynnwysa achosion meddwdod. lìtìwaith, dywedaf—" Pethau diangen sydd yn achosì ŷr. anghenion mwyaf." Ni