Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

APEL Y ÖENADAETH. Drws China sy'n agored, llè' mae un dyn o dri O holl breswylwyr daiar, yn nghanol t'wllwch dû; Japan ac India hefyd, dwy wlad aruthrol fawr, Sy'n agor cîl eu llygaid i weled dôrau'r wawr. Ac Affric, Affric dywell, hoff wlad y Negro dû, Sy'n dechreu cànu'n anwyl am goncwest Calfari; A'r Uu ynysoedd llydain sy'n britho'r Tawel Eôr, 0 un i un sy'n dyfod i chwyddo'r nefol gôr. Ac yn y man ceir gweled yr angel eryf ei lef, Yn hedeg mewn urddasrwydd yn nghanol nef y nef; Yn gwaeddi gydag egni, a chanu gyda hri, Fod holl deyrnasoedd daiar yn eiddo'n Harglwydd ni. 1 chwyddo afon moddion, a'i gwneud yn afon gref, I hfo dros y ddaiar, nes llanw gwlad a thref; Ni röwn ein haur a'n harian, a'n dagrau gyda hwy, Am mai ein hunig obaith yw Crist a'i farwol glwy'. Ymbiliwn gydag egni ar Arglwydd nef a llawr, Am godi dynion gweithgar fyn'd i'w gynhauaf mawr; Dros fôroedd, cyfandiroedd, ynysoedd daiar oll, I gadw'r Pagan anwyl rhag bythol fy'nd ar goll. A phan dywyno'r borau, bydd Jubil cyrau'r byd, Pob llwyth, pob iaith, pob cenedl, yn taflu'r mawl yn nghyd; Ni unwn gyda'r dyrfa, ac mewn soniarus lef, Ni waeddwn ag un galon, " Grogoniant iddo Ef.n Ac 0 ! mor hyfryd gwel'd y byd fel aelwyd fawr, Y Dû, y Grwyn, a'r Melyn, a'r Llwyd yn un yn awr ; Y Negro Dû o Affric, a Chymru, Grwalia Hen, Y Sais a'r Gfwyddel hefyd, i gyd yn gwisgo gwên. Ffrancod, Bwsiaid, Awstriaid, Italiaid gyda hwy, Yn canu am yr uwchaf Anthemau marwol glwy'; Preswylwyr eitha'r Dwyrain, trigolion Deaufyd, Yn un mewn llais a chalon, yn moh Crist yn nghyd. Pob rhyfel wedi darfod, y cledd a'r waew-ffon, Yn sŷchau a phladuriau yn trin y werddlâs dòn; Y dyffryn oll yn wenith, a'r mynydd oll yn geirch, Ac enw hoff ein Harglwydd ar dýnion ffrwyiii'r meirch. Un llwyth yn gwaeddi allan, Hosana gyda bri, A'r UaÜ. a'i Haleluiah o glod i'n Harglwydd ni; A'r Cymro twym ei galon, a'i ddiolch llydan, llawn, Yn canu bâs yr Anthem am rinwedd Dwyfol Iawn. Un Arglwydd dros y ddaiar, un gorlan drwy y byd, Un bugail hefyd arni, yn gwylio'r praidd i gyd; Un ffydd, un bedydd hefyd, un gobaith gyda hyn, A moliant mwyi'r Iesu, i lanw bro a bryn. REES A WILLIAMS, ARGHArEWYIl, HEOL-Y-PARO, LLANELLI.