Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YB Undebwr Cymreig COFNODYDD ac ADOLYGYDD MISOL RHIP 5. MAI, 1890, PRIS CEINIOG. Y Trefniad Tirol Gwyddelig. GAH T. W. BUSSELL, A.S. Pan yn ysgrifenu dan ddylanwad araeth Mr. Balfour, a chyn cyhoeddi y Mesur, y mae yn bur amlwg ei bod yn anmhossibl dyfod i ddealldwriaeth perffaith gywir am boll fanylion yr hyn a alwyd gau Mr. Gladstone yn " fesur cynnwysfawr "—mesur 14 fu yn wrthddrych gofal ac amynedd tuawr." Ond yr oedd araeth Mr. Balfour mor glir a goleu, fol nad oes gan unrhyw un gweddol gyfarwydd á'r dyrus destyn sydd i'w ddeongli ond ychydig anhawsder i feistroli prif ddarpariaethau y cyunygiad i drefnu y dyryswch Tirol Gwyddelig. Sylfaenir y Mesur ar egwyddor ddeublyg—yn gyntaf, fod yn ddymunol sefydlu cyfundrefn o berchenogaeth ddaliadol veu fedd- iannol o dir yn yr Iwerddon, hyny yw, cynllun drwy yr hwn y gwneir y deiliad yn dir-berchenog, neu yn feddianuydd ar ei dyddyn ei hun ; ac yn ail, fod profiad ugain mlynedd o bryn- iant tir yn y wlad hono yn brawf y gellir gwynebu y gorchwyl yn ddiberygl. ADRAN DIROL. Y mae darpariaeth gyntaf y cynllun cynnygiedig yn rhagorol. Ar hyn o bryd, y mae pump o adranau yn yradrin â thir Gwydd- elig, sef Llys yr Etifeddiaethau Tirol, y Ddirprwyaeth Dirol, y Ddirprwyaeth Bwrcasol, yr Adran Brisiol, a Bwrdd y Gweithmu. Allan o'r pum' corff hyn, cynnygir creu un Adran Dirol fawr er rheoli pob materion cyssylltiedig á gwerthiad ueu drosglwydd- iad tir. Dyna ran o'r cynlluu a gaifi' ei gymmeradwyo yn unfrydol. Gwna acliosi arbedion mawr, a hwylusa yu ddirfawr amcanion bwriadedig y Mesur. Bydd llywyddion dau o'r prif adranau presenol yn llywyddu yr adran fawr hon, sef y Barnwr Monroe a'r Barnwr Litton. GWIRFODDOL A DYOGEL. Dywedodd Mr. Balfour mewn modd eglur yn ei araeth mai gwirfoàdol yn ei iceithrediad fyddai y Mesur, ac na wnai osod y trethdalwr Prydeinig mewu unrhyw berygl o gwbl. Nid yw y dywediad hwn yn cau allan goel (credit) Prydeinig. Mewn gwirionedd, drwy offerynoliaeth coel Prydeinig (yn cael ei ara- ddiffyn yn ddigonol a llawn gan adnoddau Gwyddelig), y mae y cynllun i gael ei weithio allan. Y swm gynnygir roddi yn uniongyrchol yw £33,000,000. Ar ol i r 8wm hwn gael ei ddyhyspyddu, os na wna y Senedd drefnu fel arall, gellir defnyddio yr at-daliadau dderbynir oddiwrth y prynwyr, yn nghyd á'r at-daliadau am y £10,000,000 ddarpar- wyd yn fenthyg dan Ddeddf Ashbourne, i'r dyben o gynnorth- wyo deiliaid ereill fyddont yn dewis prynu. at-daliadau hyu tua £1,500,000 bob blwyddyu. ENGHRAIFFT DYBIEDIG. Cyrhaedda yr Er mwyn egluro y dull y gweithir allan y cynllun, cymmerodd Mr. Balfour engbraifft dybiedig o dyddyn, cyfìawn rent blyn- yddol yr hwn ydoedd £107. Amcan-gyfrifai y rhent s>wirioneddol yn £100—yr oedd y gwahaniaeth yn gynnwysedig yn y rhan o'r trethi a delid gan y tir feistr. A chymmeryd yu ganiataol fod y Ue yn cael ei werthu am reut gwirioneddol dwy flynedd ar bymtheg, sef £1,700, yr at-dàl blynyddol ueu y " blwydd-dâl iheolaidd " dan Udeddf Ashbourne, fyddai £68. Trwy y Mesnr newydd, . cynnygir fod at-daliadau y pum' mlynedd cyntaf i fod yu £80 y flwyddyn. Rbydd hyn drysorfa wrth gefu o £60 am y pum' mlynedd, ac y mae hou yn ffurfio y gyntaf o feichniaeth neu wystlon newyddiou Mr. Balfour. Geilw efe hi yn Drysor/a Ytwiroí y Deitiaid, ac nid yw i gael ei chy- ffwrdd ond pan fyddo rhyw achos arbenig a neillduol o wasgedig yn galw am hyny. Ac os cyffyrddir à hi, rhaid i'r Drysorfa Yswirol, pan wawria amser gwell, gael ei chodi i'w safon reol- aidd. Wrth reswm, os aiff pob peth yn mlaen yn iawn, caiff y pryuwyr fantais o'r drysorfa hon pan ddaw yr adeg i anturiaeth y Llywodraeth ddarfod. Y DRYSORFA WARANTEDIG. Mewn perthynas i'r gwystloo ychwane»ol, mae y Mesur yn gosod i fyny Drysorfa Warantedig, mewn rhau o arian, ac mewn rhan yn ddamwain-gyfranol (contingent.) Ffmfir y rh<m arianol o'r Dnjsorfa Warantedig fel y canlyn :— (a) £40,000 y fiwyddyn oddiwrth Dollau ar Drwyddedau. (b) £200,000 y flwyddyn oddiwrth y Doll ar Gymmunrodd- ion ( Froòate.) (c) i y cant allan o'r 4 y cant a delir yn flynyddol gan y deihaid, a elwir Trysorfa y Percentage. Cynnwysa y Drysorfa Oyfrannl roddion oddiwrth y Trysorlys Ymherodrol tuag at ddybenion addysgol a'r ilodion, yn nghyd à threthi ar eiddo y Llywodraeth yn yr Iwerddon. SUT Y GWEITHIA'R CYNLLUN. Mewn trefn i wneyd ei fater yn eglur, cymmerodd Mr. Balfour enghrHÌfft dybiedig arall. Tybier fod y £33.000,000 wedi eu rhoddi yn fenthyg, byddai yr at-dâl blynyddol oddiwrth y swtn hono yn ol 4 y cant yn £1,200,000. Meddylier na thelid chwe cheiniog o'r swm hwn mewn rhyw flwyddyn neillduol, beth fyddai gan y trethdalwyr i gwympo yn ol arno ? Yr oedd yr atebiad yn eglur a hollol foddhaol. Yn gyntaf, yr oedd y Drysorfa Bentyredig o £200,000, a ffurfiwyd drwy gyfaíafu (capitalise) y doll ar drwyddedau am bum' mlynedd. Yna